"'Ond os na ddychwel byth eich tad, 
Cewch Dduw yn Geidwad tyner;
Mae Ef i bob amddifad tlawd 
Yn Dad a Brawd bob amser.' 
"Yna, ar ol ymdrechu'n gu 
I sychu'n dagrau chwerw,
Cusanodd ni, wrth droi 'i phen draw, 
Gan godi 'i llaw a marw. 
"Ein hanwyl fam ni chawn byth mwy 
I'n harwain trwy ofidiau;
Ac ofni'r ym, mewn dirfawr fraw, 
Na ddaw ein tad byth adre', 
"Er wylo yma lawer dydd 
Mewn hiraeth prudd am dano,
Ac edrych draw a welem neb 
Yn dod--yn debyg iddo; 
"Er clywed fod y mor yn mhell, 
Tybiem mai gwell oedd myned,--
Os gallem gyrraedd yno'n dau,
Y caem yn glau ei weled. 
"Dan wylo aethom, law yn llaw, 
Trwy wynt a gwlaw a lludded,
Gan droi yn wylaidd i bob ty 
I holi'r ffordd wrth fyned. 
"Gwnai rhai, dan wenu, ymaith droi, 
Heb roi i ni ddim cymorth;
Och'neidiai'r lleill wrth wrando'n cwyn, 
Gan roddi'n fwyn in ymborth. 
"Ond erbyn gweld y mor mawr draw, 
Gwnaeth dirfawr fraw ein llenwi;
Ac ofni'r ydym fod ein tad 
Anwylfad wedi boddi. 
"Ar fedd ein mam 'r ym 'nawr o hyd, 
Mewn ing a gofid chwerw,
A hiraeth dwys am fod ein dau, 
Fel hithau, wedi marw. 
"A wyddoch chwi ddim p'le mae'n byw 
Y Duw sy'n Dad amddifaid?
Pe gallem ni ryw fodd Ei gael, 
Mac Ef yn hael wrth weiniaid. 
"Dywedodd mam mai yn y nef 
Yr ydoedd Ef yn trigo:-
A d'wedodd llawer wrthym ni, 
Heb os, ei bod hi yno. 
"Ac os yw mam 'nawr yno'n byw,
Hi dd'wed wrth Dduw am danom;
A disgwyl 'r ym y llwydda hi 
Cyn hir i'w yrru atom." 
Gwnaeth hyn im' hoff gofleidio'r ddau, 
A sychu 'u gruddiau llwydion,
A dweyd,--"Fel mam, gofalaf fi 
I'ch ymgeleddu'n dirion. 
"Na wylwch mwy! Dewch gyda mi, 
Rhof ichwi fwyd a dillad,
A dysg, a thy, a modd i fyw, 
A chewch Dduw'n Dad a Cheidwad. 
"Efe yn fwyn a'm gyrrodd i 
I ddweyd i chwi Ei 'wyllys:
A diwedd pawb a'i carant Ef, 
Yw mynd i'r nef i orffwys." 
CYFARCHIAD AR WYL PRIODAS. 
Tangnefedd a ffyniant, diddanwch a chariad,
Fo rhwymyn a choren 
eich undeb anwylfad;
Ymleded eich pabell dan wenau Rhagluniaeth,
A'ch epil fo'n enwog dros lawer cenhedlaeth.
Disgleiried eich 
rhinwedd. A gwneled yr Arglwydd
Eich cylchoedd yn fendith, a'ch 
ceraint yn dedwydd:
Estynned eich dyddiau i fod yn ddefnyddiol;
Ei eglwys fo'ch cartref, Ei air fyddo'ch rheol.
A rhodded Ei Ysbryd 
diddanol i'ch tywys
Trwy dd'rysni yr anial i'w nefol baradwys. 
DINYSTR BYDDIN SENNACHERIB. 
[Cyf. o "The Destruction of Sennacherib" Byron]. 
O Fras fro Assyria, y gelyn, fel blaidd,
Ymdorrai i'r gorlan er difa y
praidd;
A'i lengoedd mewn gwisgoedd o borffor ac aur,
Wrth hulio 
glyn Salem, a'i lliwient yn glaer. 
Eu harfau o hirbell a welid o'r bron
Fel llewyrch ser fyrddiwn ar frig 
y werdd donn;
A thrwst eu cerddediad a glywid o draw,
Fel rhuad 
taranau trwy'r wybren gerllaw. 
Eu chwifiawg fanerau, cyn machlud yr haul,
A welid fel coedwig dan 
flodau a dail;
Eu chwifiawg fanerau, ar doriad y wawr,
Fel deiliach 
gwywedig, a hulient y llawr. 
Daeth angel marwolaeth ar edyn y chwa,
Gan danllyd anadlu i'w 
gwersyll ei bla,
Nes gwneuthur pob calon, a llygad, a grudd,
Mor 
oer ac mor farw a delw o bridd. 
Y ffrom farch ddymchwelwyd.--Yn llydan ei ffroen,
Mae'n gorwedd 
heb chwythu mwy falchder ei hoen,
A'i ffun oer o'i amgylch fel 
tywyrch o waed:
Llonyddodd ar unwaith garlamiad ei draed. 
Ar oer-lawr mae'r marchog, a'r gwlith ar ei farf,
A'r llaid ar ei 
harddwisg, a'r rhwd ar ei arf:
Nid oes trwy y gwersyll na thinc picell 
fain,
Na baner yn ysgwyd, nac udgorn rydd sain.
Mae crochwaedd 
trwy Assur, daeth amser ei thal,
Mae'r delwau yn ddarnau trwy holl 
demlau Baal:
Cynddaredd y gelyn, heb godi un cledd,
Wrth olwg yr 
Arglwydd, ymdoddai i'r bedd. 
GWEDDI PLENTYN. 
Ni cheisiaf aur, na bri, na nerth, 
Na diwerth fwyniant bydol:
Fy enaid gais ragorach rhan 
Na seirian rwysg brenhinol. 
Nid moethau o ddanteithiol rin,
Na gloew win puredig,
Nac yd, na mel, nac olew per, 
Na brasder lloi pasgedig. 
Nid plethiad gwallt, na thegwch pryd, 
Na gwisg i gyd o sidan,
Nac eang lys, a'i addurn claer 
O berlau, aur, neu arian. 
Ond dwyfol werthfawrocach rodd, 
Mewn taerfodd, wy'n ei cheisio:
Ac O fy Nuw! erglyw fy nghri, 
A dyro imi honno. 
Fel arwydd hoff o'th gariad hael, 
Rho imi gael Doethineb:
Nid oes ond hon a ddwg i'm rhan 
Ddedwyddawl anfarwoldeb. 
Dysg fi yn nechre f'einioes frau 
I rodio llwybrau'r bywyd;
A chadw'th air,--trwy fyw yn ol 
Ei nefol gyfarwyddyd. 
Fel ufudd blentyn, boed i mi 
Byth wneyd dy dy yn gartre,
Fel caffwyf brofiad melus iawn 
O'i radlawn arlwyadau. 
Na ad im' ffol ymlygru byth, 
Trwy fynd i blith rhagrithwyr;
Na rhedeg chwaith o lwybrau'r ne', 
I eiste'n lle'r gwatwarwyr.
Dy santaidd waith a'th achos di 
A fo mi'n hyfrydwch;
A gwiw gymdeithas D' anwyl blant 
Fy mwyniant a'm dyddanwch. 
Os caf gysuron ar fy nhaith, 
Fy melus waith fydd moli:
Fy noniau oll, o galon rwydd, 
I'm Harglwydd gant eu rhoddi. 
Ond os caf gystudd drwy fy oes, 
A    
    
		
	
	
	Continue reading on your phone by scaning this QR Code
	 	
	
	
	    Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the 
Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.