Gwaith Alun | Page 3

Alun
cynnor cain,?Ond o honynt eu hunain;?Ganedig bendefig da,?O'u lluoedd hwy a'u llywia:--?Ond cefais, dyfeisiais fodd,?O dan drais, i'w dwyn drosodd;?Ac i mi gwnant roddi rhaith,?Ac afraid pellach cyfraith;?Rhoi llyffeithair a gair gaf,--?Gair Gwalia gywir goeliaf:--?Yn rhywfodd, ni ddysgodd hon?Er lliaws, dorri llwon:?Elinor, lawen araf,?Mewn amhorth yn gymorth gaf;?Mererid i'm Mreyron?I'w cais pur trwy'r antur hon."
Traethai'r Brenin, gerwin, gau,?Ar redeg ei fwriadau;?A'r Cyngor wnai glodfori,?Mor ddoethwedd rhyfedd eu rhi,?A'i ddihafal rialyd,?Mewn truthiaith, gweniaith i gyd.
Yna'r arglwyddi unol?A gilient, nesent yn ol,?Gan grymu pen i'w Brenin,?Laig ei glod, a phlygu glin.
Ufudd-dod y Frenhines.
E geisiai frys negesydd?Yn barod, cyn darfod dydd,--?A gyrrai, ar farch gorwych,?I'r brif-ddinas y gwas gwych,?A gofynaig i'w Fanon,?A gair teg am gariad hon:?Y lonwech bur Elinawr?Serchog, oedd yn feichiog fawr;?Gofynnai a hwyliai hon,?Gryn yrfa, i Gaernarfon,?Ar fyrder, fod mater mawr?I'w ddisgwyl y dydd esgawr.
O fodd ufuddhaodd hon,?Iach enaid, heb achwynion;?Dechreuai'r faith daith, 'run dydd,?Mewn awch, a hi'n min echwydd;?Gwawl lloer, mewn duoer dywydd,?A'i t'wysai pan darfai dydd;?Oer y cai lawer cawod,?Cenllysg yn gymysg ag od;?Anturiai, rhodiai er hyn,?Trwy Gwalia, tir y gelyn;?Er ymgasgl bar o'i hamgylch,?A'i chell yn fflamiau o'i chylch,--?Ni wnai hon ddigalonni,?Mor der oedd ei hyder hi;?(Ow! ow! 'n wir beri'r bwriad?Tra glew, er dinistrio gwlad:)--?Daeth, wrth deithio o fro i fryn,?Y faith yrfa i'w therfyn.
A'r deyrnes gynnes, heb gel?Yn ddiegwan ddiogel;?Rhoes Iorwerth eres warant,--?Ae rhingyll i gestyll, gant,?Am alw cydymweliad?Brenin ac arglwyddi'n gwlad:?Rhuddlan oedd y fan i fod?Hygof erfai gyfarfod;?I dorri rhwystrau dyrys?Y gelwid, llunid y llys:--?D'ai'r eurfig bendefigion?O amryw le 'Nghymru lon;?Yno y daeth yn y dydd,?Gwalia o gwrr bwygilydd.
Ond oedai Edward wedyn?Eu galw i'r llys, hysbys hyn;?Disgwyliai a dwys galon,--?Heb gau ei amrantau 'mron,?I'w fanon wirion, arab,?Ar awr ferth, esgor ar fab.
Harddai y lle--rhoi fwrdd llawn,?A gosod rhyw esgusiawn;?Ond er yr holl arfolli?Holl blaid ein penaethiaid ni?Ni charent y gwych aeron--?Y dawnsiau a'r llefau llon:?Y morfa llwm a hirfaith,?Lle berw tonn, oedd llwybr eu taith,?A myfyrient am fawrion?Aeth mewn cyrch dan dyrch y donn,--?Y glewion, enwogion wyr?Laddwyd, a'r prif luyddwyr:?Rhodient pan godai'r hedydd?Fel hyn, hyd i derfyn dydd;?A'u dyddiau oll fel diddim,?Synnent, ond ni ddwedent ddim:?Wedi egwyl ddisgwyliad,?O fewn eu bron daeth ofn brad,--?Swn, fal rhwng sisial a son,?"Llawrudd a chyllill hirion;"?'Roedd gwaelod y trallod trwch,?I wyr Gwalia'n ddirgelwch.
Geni Tywysog.
Wele! o'r diwedd, ar ol hir dewi,?Deuai i Iorwerth genadwri?O Gaersalwg,--gwnai ei groesholi,--?Yna ei holl anian oedd yn llonni?Hyd grechwen, pan glywodd eni--bachgen?Ag aur wialen a gai reoli.
Ac yna a'i udganwr?A'i gorn teg i gern y twr:?Galwyd arglwyddi Gwalia, ar unwaith,?Ar heng hirfaith i ddod i'r gynghorfa.
Pob rhyw gadr waladr oedd?Yn esgud yn ei wisgoedd;?Distain wnai iddynt eiste?Bob yn lwyth--bawb yn ei le:?Deuai'r Ynad dirinwedd,?Mewn parchus, arswydus wedd;?Mewn rhwysg a muner-wisgoedd,?Coron ar y coryn oedd;?A gwyneb yn llawn gweniaith,?O drefn y dechreuai draith.
"Fy neges, brif enwogion,?A glywiau teg y wlad hon,--?Nid ydyw i wneyd adwyth,?Dwyn loesion llymion yn llwyth,--?I fygwth clwyf a gwaith cledd,?Nac i lunio celanedd;?Ond o fwriad adferu?Eich hyfawl barch fel y bu;?Cymru ben baladr ffladr fflwch?Heddyw sydd eisiau heddwch;?Rhoddi Llywiawdwr addwyn,?Nwyfre maith, wnaf er ei mwyn;?Un na's trina es'roniaith,?Na swn gwag Seisonig iaith;?Fe'i ganwyd ar dir Gwynedd,?Dull Sais, na'i falais, ni fedd;?Addefir ef yn ddifai,--?Ni wyr un fod arno fai:?Yn fwynaidd gwybod fynnwn,?Beth wnewch? Ufuddhewch i hwn?"

Cydunent, atebent hwy,--?"Ymweledydd mawladwy,?I'n cenedl rhyw chwedl go chwith?Ydyw geiriau digyrrith;?Cymru wech,--nis cymrai hon?Lyw o astrus law estron;?Ond tynged a brwnt angen,?A gwae ei phobl, blyga'i phen:?Llin ein llon D'wysogion sydd?'Leni mewn daear lonydd:?Rho di'r llyw cadarn arnom?A dedwydd beunydd y b'om:--?Enwa 'nawr, er union waith,?Y gwr del wisga'r dalaith,?'Nol cyfraith, fel b'o rhaith rhom,?Na thyrr ing fyth awr rhyngom:?Ie, tyngwn, at angau,?Yn bur i hwn gwnawn barhau."
Fulion! ni wyddent falais,?Dichellion, na swynion Sais.
Dwedai'r blin Frenin ar frys--?"Felly ces fy ewyllys,?Doe y daeth, megis saeth, son?Yn erfai o Gaernarfon,?Fod mab rydd wynfyd i mi,?Nawdd anwyl, newydd eni;?A hwn fydd eich llywydd llon,?A'ch T'wysog enwog union:?Dal a wnaf, nes delo'n wr,?Drethi eich llywodraethwr;?Bellach, y bydd sarllach Sais,?Mawr ddilwrf Gymry ddeliais."
Gwelwent, a safent yn syn,?Ymhleth ddiachreth ddychryn;?A phob boch oedd yn brochi,--?Tro'i brad aml lygad i li.
Araeth Madog.
Ebai Madog, enwog wr,--?"Ha! rymusaf ormeswr!?Tybiais falch wawrwalch lle'r el,?Wir awch, yn wr rhy uchel,?I lochi brad dan lech bron,?A challawr i ddichellion:?Ond ni wnei gu Gymru'n gaeth,?Bro dirion, a bradwriaeth;?Ni phryni serch prid, didwyll,?Ac odiaeth hon, gyda thwyll:?Os gall dy frad ddwyn gwlad glau?I gur a chwerw garcharau,--?Nis gall dy ewin-gall wau?Rhwym a ddalio'r meddyliau:?A oedd cochi perthi'n pau,?A llawruddio'n holl raddau,--?Ein llyfrau, a'n gotau gwaith,--?A'n haneddau ni'n oddaith,?Y teryll aer,--torri llw,?A'r brad ger Aberedw,--
Ow! ow! yn ddiwegi ddim yn ddigon,?I ddangaws, i araws i oes wyrion,?Fel rhyw anhawddgar ac afar gofion?Mai marwor meryw yw ystryw estron??Ond am y wlad, deg-wlad hon,--gwybydd di,?Rhaid iti ei cholli, er dichellion.
"Os yw breg gwgus, a braw,?Fal wedi dal ein dwylaw,?Daw ail gynnwrf, dilwrf da,?I drigolion dewr Gwalia;?Codwn, arfogwn fagad,?O wrol wych wyr y wlad;?Mewn bar y bonllefa'r llu?'Camrwysg ni oddef Cymru,--?Rhi o'n huchel
Continue reading on your phone by scaning this QR Code

 / 24
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.