Gwaith Alun | Page 2

Alun
greddf.
Rhom, rhyngom.
Sarllach, bost, bloddest.
Sawdan, Soldan, Sultan.
Sitwyr, rangers, freebooters.
ALUN.
[Ym Mhonterwyl, Ger Y Wyddgrug: alun8.jpg]
"IDDO EF."
Dat. i. 5.
'Does testun gwiw i'm can?Ond cariad f' Arglwydd glan
A'i farwol glwy;?Griddfanau Calfari,?Ac angau Iesu cu,?Yw nghan a mywyd i,
Hosanna mwy.
Paham bu i ddeddf y net?Ymaflyd ynddo EF,
A rhoi iddo glwy??Fe roddwyd yn y drefn,?Fy meiau ar ei gefn;?Pwy na roi floedd drachefn--
Hosanna mwy.
Ergydiwyd ato EF,?Gan uffern, byd, a nef,
Eu saethau hwy:?Arhodd ei fwa'n gry',?Nes maeddu uffern ddu,?A phrynu mywyd i,
Hosanna mwy.
Caniadau'r nefol gor,?Sydd oll i'm Harglwydd Ior
A'i ddwyfol glwy;?Y frwydr wedi troi,?Ellyllon wedi ffoi,--?Sy'n gwneyd i'r dyrfa roi
Hosanna mwy.
O faint ei gariad EF!?Nis gall holl ddoniau'r nef,
Ei dreiddio drwy:?Mae hyn i mi'n beth syn,?I ruddfan pen y bryn?Droi'n gan i mi fel hyn,
Hosanna mwy.
Pan ddelo'r plant ynghyd,?O bedair rhan y byd,
I'w mangre hwy;?Tan obaith yn ddilyth,?Cael telyn yn eu plith,?I ganu heb gwyno byth,
Hosanna mwy.
Tra bwyf ar riwiau serth,?Preswylydd mawr y berth,
Rho'th gwmni trwy;?Mae cofio am y loes?Dan arw gur y groes,?Yn rhyw feluso f'oes,
Hosanna mwy.
Na ddigied neb o'r plant,?Am imi ganu ar dant
O'u telyn hwy:?Myfyrio'r tywydd du?Fu ar ein Iesu cu,?A droes fy nghan mor hy',
Hosanna mwy.
ANGAU.
_Englynion a ysgrifenwyd yn ddifyfyr ym mynwent y?Wyddgrug_.
"Ni foddir (mae'n rhyfeddol)--chwai angau,
A chyngor dymunol;?Er wban, griddfan greddfol,?(Uthr in' yw!) ni thry yn ol.
Er gwaedd mam,--er gweddi myrdd,
Er gwen byd,--er gwyneb hardd,?Er swn cwyn,--er seinio cerdd,?Er ing ffull, mynn angau'i ffordd.
Ni eiriach rai bach rhag bedd,--i'r cedyrn
Rhoir codwn i'r dyfn-fedd;?A mirain feibion mawredd?Ostyngir, siglir o'u sedd.
I'r llaid yr aeth fy nhaidiau,--i huno,
Fu'n heinyf er's dyddiau:?I'r ystafell dywell dau,?Ryw funud, yr af innau.
Ond cael nod hynod, a hedd--yr Iesu,
A drws i dangnefedd;?Yn dawel yn y diwedd,?Af i gaban bychan bedd.
CYMDEITHAS GYMREIGYDDOL CAERLLEON.
Boed llwydd, mewn pob dull addas,--a chynnydd
I'ch enwog Gymdeithas;?Heb stwr, na chynnwr, na chas--?Geni beirdd heirdd fo'i hurddas.
Bu gannoedd drwy bob gweniaith,--addefent,
Am ddifa'r Omeriaith;?Aent hwy i lawr i fynwent laith--?I fyny safai'r fwyn-iaith.
Heddyw gwelaf na faidd gelyn--er gwyn,
Roi gair yn ei herbyn;?A dolef gref sy'n dilyn,?"A lwyddo Duw, ni ludd dyn."
Cur llawer fu Caerlleon,--y gw'radwydd
Sy'n gwrido hanesion;?Am groesi'r Clawdd hir i hon,?Brethid calonnau Brython.
'Nawr Cymry gant wisgant wen,
Chwarddu gant a cherddi gwin,?Ceir bri, a chwmni, a chan,?O fewn Caer heb ofn y cwn.
Byw undeb, gyda bendith,--a daenir
O'ch doniawl athrylith:?Gelyn breg, rhwyg rheg rhagrith?I chwerwi'ch plaid, na chaer i'ch plith.
DAU ENGLYN
Ar Briodas Mr. P. Williams a Miss Whitley, Broncoed.
Gan Naf eiddunaf i'r ddau--bob undeb,
A bendith, a grasau,?I fyw'n hir, ac i fwynhau?Dedwyddwch hyd eu dyddiau.
Eirchion y gwaelion heb gelu,--pur rad
Parhaus fo'n defnynnu:?Pob urddawl ollawl allu?Iddyn' ddel--medd Ioan Ddu.
Tach., 1812
GENEDIGAETH IORWERTH II.
Llais llid Iorwerth.
Clywch! clywch! ar hyd lannau Clwyd?Ryw swn oersyn o arswyd!?Gorthaw'r donn, cerdda'n llonydd,?Ust! y ffrwd,--pa sibrwd sydd??O Ruddlan daw'r ireiddlef?Ar ael groch yr awel gref;?Geiriau yr euog Iorwerth,?O 'stafell y Castell certh;?Bryd a chorff yn ddiorffwys,--?Hunan-ymddiddan yn ddwys:?Clywch, o'r llys mewn dyrys don,?Draw'n sisial deyrn y Saeson,--?"Pa uffernol gamp ffyrnig??A pha ryw aidd dewraidd dig??Pa wrolwymp rialyd?Sy'n greddfu trwy Gymru 'gyd??Bloeddiant, a llefant rhag llid,?Gawrwaeddant am deg ryddid,--?'Doed chwerwder, blinder, i blaid?Ystryw anwar estroniaid;?Ein gwlad, a'n ffel wehelyth,--?Hyd Nef,' yw eu bonllef byth;?Ac adsain main y mynydd,--?Och o'u swn!--yn gasach sydd;?'Ein gwlad lan amhrisiadwy,'?Er neb, yw eu hateb hwy.
"Pa les yw fod im' glod glan?Am arswydo'r mawr Sawdan,--?Pylu asteilch Palestin,?Baeddu Tyrciaid, bleiddiaid blin;?Troi Chalon wron i weryd,?Ie, curo beilch wyr y byd,--?Os Gwalia wen,--heb bennaeth,?A'i mawrion gwiwlon yn gaeth,--?Heb fur prawf,--heb farrau pres,?Na lleng o wyr, na llynges,--?A ymheria fy mawr-rwysg,?Heb fy nghyfri'n Rhi mewn rhwysg??Er cweryl gyda'r cawri,?A lladd myrdd, nid llwydd i mi;?Ni fyddaf, na'm harfeddyd,?Ond gwatwor tra byddo'r byd.
"Ha! ymrwyfaf am ryfel,?O'm plaid llu o ddiafliaid ddel:?Trowch ati'r trueni trwch,?Ellyllon! gwnewch oll allwch.
"I ti, O Angeu, heddyw y tyngaf,?Mai am ddialedd mwy y meddyliaf;?Eu holl filwyr, luyddwyr, a laddaf,?Un awr eu bywydau ni arbedaf;?Oes, gwerth, i hyn aberthaf,--gwanu hon?Drwy ei chalon fydd fy ymdrech olaf.
Dichell Iorwerth.
"Ha! ha! Frenin blin, i ble?Neidiodd dy siomgar nwyde??Oferedd, am hadledd hon,?Imi fwrw myfyrion;?Haws fydd troi moelydd, i mi,?Arw aelgerth, draw i'r weilgi,?Nac i ostwng eu cestyll,?Crog hagr, sef y creigiau hyll.
"Oni ddichon i ddichell,?Na chledd na nych, lwyddo'n well??Rhyw ddu fesur ddyfeisiaf,--?Pa ystryw ddwys, gyfrwys gaf??Pa gais? pa ddyfais ddifeth?Gaiff y budd,--ac a pha beth?
"'Nawr cefais a wna r cyfan,--?Mae'r meddwl diddwl ar dan;?Fy nghalon drwy 'nwyfron naid,?A llawenydd ei llonaid;?Gwnaf Gymru uchel elwch,?I blygu, a llyfu'r llwch:--?I wyr fy llys, pa'nd hyspyswn?Wiw eiriau teg y bwriad hwn?"
A chanu'r gloch a wnai'r Glyw,?Ei ddiddig was a ddeddyw,--?"Fy ngwas, nac aros, dos di,?A rhed," eb ei Fawrhydi,--?"Galw ar fyrr fy Mreyron,?Clifford hoew, Caerloew lon;?Mortimer yn funer fo,?A Warren, un diwyro."
Deuent, ymostyngent hwy?I'w trethawr, at y trothwy:?O flaen gorsedd felenwawr?Safai, anerchai hwy'n awr,--
"Cyfeillion bron eich Brenin,?A'i ategau'r blwyddau blin,--?Galwyd chwi at eich gilydd?Am fater ar fyrder fydd;?Gwyddoch, wrth eu hagweddau,?Fod llu holl Gymru'n nacau?Ymostwng, er dim ystyr,?I'm hiau o gylch gyddfau'u gwyr;?Ni wna gair teg na garw,--?Gwen, na bar,--llachar, na llw,?Ennill eu serch i'm perchi,?Na'u clod i'm hawdurdod i:?Ni fynnant Bor,
Continue reading on your phone by scaning this QR Code

 / 24
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.