Cerddir Mynydd Du | Page 2

Not Available
B.A.
[Illustration: MYNWENT CWMGIEDD.]
Adgofion Mebyd.
Heda meddwl i'r gorphenol,?I baradwys bore oes,?Pan oedd bywyd yn ddymunol,?Pryd na chwythai awel groes;?Cysegredig oedd y twyni?Lle chwareuem amser gynt,?Nid oedd gofid wedi'i eni,?Nid oedd brad yn swn y gwynt.
Yr oedd engyl ar y llwybrau,?'N syllu arnom hyd y ffyrdd,?Eden ydoedd "Penyffaldau,"?Lle treuliasom oriau fyrdd;?Oriau glan heb wag oferedd?I lychwino'r tymhor gwyn;?Darn o'r nef yn ein hedmygedd?Oedd y llecyn prydferth hyn.
Cynal oedfa wedi'r oedfa?Wnelem ni ar ben y Bryn,?Nid oedd neb yn gwag-rodiana?Y nos Suliau sanctaidd hyn;?Pobi ieuainc yn finteioedd?Dyrent yma wedi'r cwrdd,?Gan orfoledd naws y nefoedd,?O! mor anhawdd oedd myn'd ffwrdd.
Cofio'r adeg pan neillduem?I ryw gonglau unig iawn,?Yno'n fynych yr arferem,?Heb un "dorf," berffeithio'n dawn;?Adrodd darnau y "Pen Chwarter,"?Er eu gloewi, wnelem 'nawr,?Yna wedyn gan ein hyder,?Nid oedd neb yn tori lawr.
Ambell noson deg o'r wythnos?Gwelid ni dan lwyni heirdd,?Fel "derwyddon" yr hen oesau?Yn cael orig gyda'r beirdd;?"Oriau'r Hwyr" ac "Oriau'r Bore,"?"Oriau Ereill" Ceiriog Hughes,?A ddarllenem am y gore,?Cyn bod son am _football news_.
Dysgu nyddu'r "cynghaneddion,"?A llinellu yn ddiball,?A chael ffrwd o grechwen iachus?Wrth ddarganfod ambell wall;?Hyn yw'r rheswm fod fy ardal?Wedi codi beirdd o nod,?Wrth fyfyrio pethau ofer?Ellir byth gyrhaeddyd clod.
Wrth ymlwybro tua'r Capel?Dros y bryn, y waun, a'r ddol,?Nid oedd calon un addolydd?Yn dychmygu pethau ffol;?Gwelem Dduw yn mrig y perthi?'N llosgi, megys Moses gynt,?Caem ein dwyfol ysbrydoli,?A'n gweddnewid ar ein hynt.
Seiniau adar bach y llwyni?Dorai'n fiwsig ar ein clyw,?Yr oedd natur yn ein tywys?Tuag allor cysegr Duw;?Megys Enoch gynt yn rhodio?Rhodiai tadau dros bob rhiw;?Dal cymundeb a'r ysbrydol?Ydyw rhodio gyda Duw.
GWILYM WYN.
Llynau'r Giedd.
Hen afon hoff! dy ganmol wnaf,?A chanaf i dy Lynau,?Cyrchleoedd difyr, llon, di-loes,?Fu rhai'n ar hyd yr oesau;?Bum innau'n chwareu lawer tro,?A nofio yn eu dyfroedd,?A hel eu pysg, ddydd mebyd ter,?Oedd imi'n haner nefoedd.
Llyn "dysgu nofio" oedd "Llyn Scwd,"?A brwd oedd plant am dano,?Nid oedd ei debyg yn y wlad?I chware' tra'd a dwylo';?Ei waelod welodd llawer un,?A blin fu'r ymdrech droion?I ffrwyno'r lli', a dysgu'n llon?I farchog ton yr afon.
"Llyn Gored" sydd fel gwydr-ddrych?Pan fyddo sych yr afon,?A'r graig uwchben wrth wel'd ei llun?Addolai'i hun yn gyson;?Ond pan ddaw llif i lawr drwy'r llyn?Yn ewyn gwyn cynddaredd,?Yn synu pawb bydd dyfroedd iach?Niagra fach Cwmgiedd.
Nid yw "Llyn Cwar" yn fawr ei faint,?Er cymaint son am dano,?Gogoniant hwn yw'r ffynnon lon?Sy'n llifo'n gyson iddo;?Rhyw gawg yw ef i ddal ei gwin?Yn mhoethder hin yr hafau,?Pan sych yr afon yn mhob man,?Llyn Cwar ddiwalla'n heisiau.
"Llyn Dafydd Morgan," dyma fe,?Mewn creigle mae ei wely,?A physg yr afon dd'ont yn llon?O dan ei don i gysgu;?Mae Dafydd Morgan yn ei fedd,?A Giedd eto'n llifo,?Ond aros mae y llyn o hyd,?A'r byd yn myned heibio.
"Llyn Felin Fach" ar lawr y Cwm,?Mae heddyw'n llwm ei gylchoedd,?Mae'r felin gynt oedd wrth ei lif?Yn adfail er's canrifoedd;?Bu llawer rhod o dan ei don?Yn gyson ei throadau,?A holi'n segur mae o hyd--?Pa le mae yd y tadau?
Llyn dwfn yr "Olchfa," du ei liw,?Cymydog yw i'r mynydd,?A'r miloedd defaid yn yr ha'?A olchir yma'n ddedwydd;?Os du ei don, daw'r praidd yn wyn?I'r cnaif o'r llyn yn gyson,?A thra bo'r Mynydd Du, parha?Yr "Olchfa" yn yr afon.
Mae eto Lynau'n uwch i'r lan,?Ar ffordd y Fan a'r Carnau,?Y Cefn Mawr a'r Gareg Goch,?A glyw y croch raiadrau,?Dyfnder yn galw dyfnder sy'?Yn gry' ar hyd y mynydd,?A Giedd lama'n ewyn gwyn?O lyn i lyn i'r Werydd.
_Cwmgiedd._
RHYS POWEL (_Yorath_).
Shon Wil Rhys.
'Rwyf yn awr mewn gwth o oedran,?Ac yn gwisgo'r blewyn brith,?Hen gymeriad hynod ydwyf,?Wedi'i fagu yn eich plith;?Nid oes neb sydd yn trigianu?Yn nghyffiniau afon Gwys?Wedi cerfio'i enw'n ddyfnach?Yn y wlad na Shon Wil Rhys.
Caled i mi a fu bywyd,?O'i gychwyniad hyd yn hyn,?Megys myrtwydd heb w��n heulwen?Dan gysgodau dwfn y glyn;?Rhwyfo wyf mewn dyfroedd dyfnion,?Cyn ac wedi cym'ryd gwraig,?Ond 'rwyf fi a'r llong heb suddo,?Ac heb daro'n erbyn craig.
Os mai gwael yw'm gwedd yn fynych,?Os mai llwydaidd yw fy ngwisg,?Nid yw'n deg i neb i farnu?Gwerth y cnewllyn wrth y plisg;?Haera rhai na ches fy nghrasu'n?Ddigon caled, medde'n nhw,?Ond ni fu y rhai'n yn ngenau'r?Ffwrn o gwbl gwnaf fy llw.
Llawer coegyn sydd am wneuthur?Ffwl o honwyf lawer pryd,?Peidiwch chwi er hyn camsynied,?Y mae Shoni yma'i gyd;?Os yr ydwyf yn ddiniwed,?Nid wyf fi i gyd yn ffol,?Nid y fi yw'r unig berson?Fu fel Dafydd yn nillad Saul.
Pan yn nghryfder nerth ac iechyd?Teithiais lawer ar fy hynt,?Trwy gul gymoedd a thros fryniau?I gyrddau mawr yr amser gynt;?Yno wylo, neidio, a moli,?A rhoi proc i'r hen Amen,?Rhoddais _oil_ ar _wheel_ y bregeth?Ganwaith cyn y doi i'r pen.
Mae'r pregethwyr doniol hyny?Bron i gyd yn llwch y llawr,?Yn adgofio am eu haeledd?Y mae llawer hen got fawr;?Nid oedd un pregethwr enwog?Yn y de na'r gogledd draw?Na fum i ryw dro yn rhywle?Gyda'r brawd yn ysgwyd llaw.
Hen bregethwyr tanllyd Cymru,?Yn y wlad ac yn y dref,?Oedd y dyddiau gwlithog hyny?Yn gynefin iawn am llef;?Os pregethwyr mwy dysgedig?A gyfodwyd yn ein plith,?Hen bregethwyr cynt, er hyny,?I Shon Rhys am
Continue reading on your phone by scaning this QR Code

 / 13
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.