Cerddir Mynydd Du

Not Available
A free download from www.dertz.in
The Project Gutenberg eBook, Cerddi'r Mynydd Du, by Various, Edited by W. Griffiths, Illustrated by Llew Morgan
This eBook is for the use of anyone anywhere at no cost and with almost no restrictions whatsoever. You may copy it, give it away or re-use it under the terms of the Project Gutenberg License included with this eBook or online at www.gutenberg.org
Title: Cerddi'r Mynydd Du
Caneuon Hen a Diweddar
Author: Various
Editor: W. Griffiths
Release Date: September 6, 2007 [eBook #22528]
Language: Welsh
Character set encoding: ISO-8859-1
***START OF THE PROJECT GUTENBERG EBOOK CERDDI'R MYNYDD DU***
E-text prepared by Al Haines
Note: Project Gutenberg also has an HTML version of this
file which includes the original illustrations.?See 22528-h.htm or 22528-h.zip:?(http://www.gutenberg.net/dirs/2/2/5/2/22528/22528-h/22528-h.htm) or?(http://www.gutenberg.net/dirs/2/2/5/2/22528/22528-h.zip)
[Frontispiece: G. Davies, Ysw., Seattle, U.D., I'r hwn y cyflwynir y gyfrol hon, a thrwyddo ef i'r holl frodorion ar wasgar.]
Adgof dedwydd am a fu?Wna Fynydd Gwyn o'r Mynydd Du.
CERDDI'R MYNYDD DU
sef
CANEUON HEN A DIWEDDAR
WEDI EU CASGLU A'U TREFNU GAN Y
PARCH. W. GRIFFITHS
(G. AP LLEISION), YSTRADGYNLAIS.
GYDA DARLUNIAU GAN
MR. LLEW MORGAN.
ABERHONDDU:?Argraffwyd gan ROBT. READ,?yn Swyddfa'r "Brecon & Radnor Express," Y Bulwark.?1913.
CYNWYSIAD.
Cyflwyniad?With Droed y Mynydd Du?Adgofion Mebyd?Llynau'r Giedd?Shon Wil Khys?Pen y Cribarth?Yn y Mawn ar ben y Mynydd?Bugail y Mynydd Du?Hela'r Twrch Trwyth?Afon Giedd?Ffaldau Moel Feity?Y Llynfell?Llyga d y Dydd ar Waen Ddolgam?O'r Niwl i'r Nef?Gwilym Shon?Llyn y Fan (Gwatwargerdd)?Ffrydiau Twrch?Angladd ar y Mynydd Du?Y Gof Bach?Ffynon y Brandi?Dafydd y Neuadd Las?Cyw?Llyn y Fan?Ar y Banau?Breuddwyd Adgof?Can y Dwyfundodiaid
Illustrations
G. Davies, Ysw., Seattle, U.D., I'r hwn y cyflwynir y gyfrol hon, a thrwyddo ef i'r holl frodorion ar wasgar. . . . . . _Frontispiece_
Cerfiad mewn trawst perthynol i hen amaethdy Brynygroes, yn dynodi adeg ei adeiladu, ac enw ei breswylydd. Mae y lle wedi ei ddal gan yr un llinach am dros 400 0 flynyddoedd.
Bryn-Y-Groes.
Mynwent Cwmgiedd.
Gored Y Giedd.
Trem I'r Mynydd Du.
Cwmgiedd (Rhan Isaf).
Ffynon-Y-Cwar.
Pont-Ynys-Twlc.
Penparc.
Llocior'r Defaid.
Maen Derwyddol Ger LLaw Llyn-Y-Fan Fawr.
LLyn-Y-Fan.
[Illustration: Cerfiad mewn trawst perthynol i hen amaethdy Brynygroes, yn dynodi adeg ei adeiladu, ac ewn ei breswylydd. Mae y lle wedi ei ddal gan yr un llinach am dros 400 o flynyddoedd.]
[Illustration: Bryn-Y-Groes.]
CYFLWYNEDIG
1
GRIFFITH DAVIES, Ysw.,
SEATTLE, WASHINGTON, AMERICA.
At foneddwr--brodor glan,?Lyfr bychan, dos a'th gan,?Nid oes genyf anrheg well?Iddo ar Gyfandir pell?Na'r caneuon syml hyn--?Cerddi bro ei faboed gwyn.
Yma gwelodd gynta'r byd,?Giedd suai gwsg ei gryd,?Yn ei dyfroedd laslanc llon?Dysgodd gyntaf nofio'r don,?Ar ei glanau yfai ddysg,?Yn ei llynau daliai'r pysg.
Am flynyddau wedi hyn?Cerddai'r fro, a dringai'r bryn.?Anturiaethus fu ei daith?I'r pellderoedd lawer gwaith;?A chyfrinach anian gu?Glywodd ar y Mynydd Du.
Myn brodorion yr Hen Wlad?Adrodd beunydd mewn mwynhad?Am ei deithiau yma a thraw?Gyda'i lyfr yn ei law;?Hoffai wybod meddwl dyn,?Meddwl Duw yn fwy na'r un.
Haf a gauaf, tes a gwynt,?Carai fyn'd i'r Capel gynt,?Rhoes ei ddawn yn offrwm byw?Ar allorau sanctaidd Duw;?Casglodd yma fanna bras,?Canodd yma gerddi gras.
I'r cwrdd gweddi ffyddlawn bu,?Yn yr Ysgol, athraw cu;?Ei ddisgyblion dros y byd?Dystiant am ei wersi drud,?Hauodd ef ar lawer dol,?Tyf cynhauaf gwyn o'i ol.
Diwrnod yn y cwmwl trwm?Ydoedd hwnw yn y Cwm?Aeth a'r delfryd lanc di-ail?Tua gwlad machludiad haul;?Yn y cwmwl nid oedd gw��n,?Wylai'r ieuanc, wylai'r hen.
Mae blynyddau maith er hyn,?Newid sydd ar fro a bryn;?Hen gyfoedion wedi myn'd,?Nid oes mwy ond _ambell_ ffrynd,?Yntau fry ar dyrau llwydd?Gafodd fyd a Duw yn rhwydd.
Daw hanesion dros y d��n,?Hanes glan fel ewyn hon,?Hanes calon eang, hael,?Fedra roi mor llon a chael,?Hanes bywyd sydd a'i fryd?Beunydd i brydferthu byd.
Frodor anwyl, hoff yn awr?Ganddo gofio llwybrau'r wawr,?Mae y Mynydd Du o hyd?Iddo'n gyfrinachau'i gyd,?Salmau'r neint sydd ar ei glyw--?Mynydd ei Wynfydau yw.
Lyfr bychan, dos a'th gan?Drosodd i'r boneddwr glan;?Nid oes genyf anrheg well?Iddo ar Gyfandir pell?Na'r caneuon syml hyn--?Cerddi gwlad ei faboed gwyn.
G. AP LLEISION.
Wrth Droed y Mynydd Du.
'Roedd blodau ar y dyffryn,?A Mai o dan y coed,?Yn chwareu gyda'r awel?Yn lion ac ysgafn droed:?Fe ganai y fwyalchen?Ar gangen las uwchben,?Heb wrando cyfrinachau serch?Y ddau oedd dan y pren.
Fe welsant flodau'n tyfu?Ar bedwar-ugain Mai,?Ond welodd neb er hynny,?Eu serch yn myn'd yn llai;?Adroddant wrth en gilydd?Adgofion blwyddi fu,?Pan rodient dan oleuni'r lloer?Hyd llethrau'r Mynydd Du.
"'Rwy'n cofio'r noson gyntaf?I'th welais, f'anwyl un,?Pan deimlais yn fy nghalon?Fod mellt yn llygad mun;?'Rwy'n cofio'th wylio'n rhedeg?Fel ewig dros yr allt,?A'r nos oedd yn dy lygad, Gwen,?A'r aur oedd yn dy wallt."
"Ond dofi wnaeth y fellten?Oedd yn dy lygad, Gwen,?Ac yn lle aur daeth eira?I aros ar dy ben:?Mi garaf eto'th lygad,?Fy nghariad, clyw fy ngair,?A charaf eto'r eira, Gwen,?Fel cerais gynt yr aur."
"'Rwy'n cofio gofyn iti,?O dan y bedw bren,?A wnaethet fy mhriodi,?Addewaist tithau, Gwen:?Ysbio rhwng y cangau?'Roedd goleu llwyd y lloer,?A ninnau rhwng ei llewyrch, Gwen,?Heb deimlo'r gwynt yn oer."
"'Rwy'n cofio'r boreu dedwydd,?A'r nef yn las uwchben,?Pan unwyd ein calonnau,?Fe gofi dithau, Gwen:?Ti wridaist wrth yr allor?Fel cwmwl cynta'r wawr;?A chrynu wnai fy nghalon, Gwen,?Fel gweli'm dwylaw'n awr."
"Fe gododd llawer storom,?Fe'n curwyd gan y d��n,?Bu llawer pryder chwerw?Yn llechu dan ein bron;?Cyn hir a'r storom olaf?I blith y stormydd fu,?Ac huno gawn yn dawel, Gwen,?Wrth odreu'r Mynydd Du."
_Abercrave._
R. BEYNOK,
Continue reading on your phone by scaning this QR Code

 / 13
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.