Cartrefi Cymru | Page 9

Owen M. Edwards
yn ein harwain i gyfeiriad tarddle'r afon

Liw. Ar un ochr i ni y mae gwrych; ac ar yr ochr arall y mae dol lydan
werdd, a'r afon yn dwndwr gyda'i godreu. Yr ochr arall i'r afon y mae'r
Cei, ffordd gul wedi ei chodi'n uwch na'r tir gwastad o bobtu iddi. Ar
hyd y cei noethlwm hwn, dyfal gyrcha'r pererinion Anibynnol i'r Hen
Gapel a welwn draw. Anodd cael rhodfa fwy dymunol na'r Cei yn yr
haf, pan fo'r brithylliaid i'w gweled yn chwareu yn yr afon, a phan fo
awel ysgafn gynnes yn crwydro dros laswellt a meillion aroglus. Ond
yn y gauaf, pan fo dwfr oer rhewllyd o bobtu, pan chwyth awel lem
finiog oddiar fynydd sydd dan ei lwydrew, y mae golwg triglyd truenus
ar lawer hen Gristion ffyddlon yn tynnu yn erbyn y rhew-wynt tua'r
cyfarfod gweddi.
Llawer gwaith y clywais fy nhad yn adrodd hanes gwr tyn yn cerdded
hyd y Cei yn nyfnder gauaf oer. Er mwyn cynhesrwydd, yr oedd wedi
gwthio ei ddwylaw i bocedi ei lodrau, ie, i'w gwaelod, oherwydd yr
oedd yn erchyll o oer. Pan ar ganol y Cei, llithrodd ei droed ar y rhew, a
syrthiodd ar ei wyneb ar y llwybr. Yno yr oedd mewn enbydrwydd
mawr. Yr oedd ei ddwylaw'n ddyfnion, fel y dywedwyd, ym mhocedau
ei lodrau. Os ymegniai i dynnu y naill law allan, treiglai oddiar y
llwybr i'r dwfr ar y naill du, oherwydd yr oedd y llwybr yn gul iawn.
Os tynnai'r llaw arall, ai drosodd yr ochr aroll, ac yr oedd dwfr yr ochr
honno hefyd, yr un mor oer, a rhewllyd. Nid oedd dim i'w wneyd ond
aros yn llonydd hyd nes y delai rhywun heibio. Ni fedrai neb, fel y
Lefiad a'r offeiriad y sonnir am danynt yn yr Ysgrythyr, fyned "o'r tu
arall heibio" a daeth rhyw Samaritan o'r diwedd i fwrw ei anwyd trwy
godi'r gwr oedd yn methu tynuu ei ddwylaw o'i bocedi.
Ond haf ydyw'n awr; y mae'r, defaid yn y mynydd, nid ydyw Awst
wedi darfod, y mae'r glaswenwyn a blodau'r taranau hyd y cloddiau, ac
y mae'r corn carw hyd lethrau'r mynydd. Dyma'r llwybr yn dod a ni at
yr afon eto, a dacw'r "Hen Gapel" yr ochr draw,--hen gapel Lewis Rhys
ac Abraham Tibbott, Dr Lewis a Michael Jones. O'n blaenau y mae
craig serth yn ymgodi i'r nefoedd, ac ar ei hael y mae muriau toredig
Castell Carn Dochan. Dywedir fod telyn aur wedi ei chuddio dan y
llawr ar ben y graig uchel acw; ond daw'n fellt a tharanau ofnadwy os
dechreuwch, gloddio ati. Nis gwn i sicrwydd a oes telyn aur dan lawr yr
hen amddiffynfa, ond gwn fod gwallt y forwyn yn tyfu yn rhigolau'r
muriau, a gellir syllu ar ei bryd-ferthwch heb ofni mellt na tharanau na
dim.

Ond dyma ni wrth y Deildref, cartref John Parry, athraw barddonol Ap
Vychan,--"bardd rhagorol, llawn o athrylith a than awenyddol, fu farw
o'r darfodedigaeth yng nghanol ei ddyddiau." Ychydig yn uwch i fyny
dyma'r Deildref Ucha, cartref Cadwaladr Jones Dolgellau, hen olygydd
y Dysgedydd. Ar y chwith, rhyw ddau hyd cae o'r ffordd, y mae'r Wern
Ddu, cartref yr hen Gadwaladr Williams garedig fu'n ceisio darbwyllo
Ap Vychan pan yn hogyn nad ai plant llygaid gleision i'r nefoedd, ac
mai Deio'r Graig oedd yn achosi'r taranau trwy fynd o ben y castell i
lawr y nefoedd, a gyrru olwyn ar hydddo. Ymhellach ymlaen, wedi
mwynhau golygfeydd rhamantus, dyma ni wrth y Ty Mawr lle y daeth
Ap Vychan yn hogyn cadw pan yn ddeg oed, a'r lle y bu am saith
mlynedd, yn mwynhau llawer o fanteision crefyddol, dan lywodraeth
gref gariadlawn y wraig fwyaf deallus mewn duwinyddiaeth a welodd
erioed.
Cyn hir, gyda ein bod wrth droed craig y castell, dyma ffordd yn croesi
ein ffordd ni, ac yn rhedeg ar draws y cwm. Trown ar y chwith ar
hyd-ddi, a dyma ni wrth Hafod y Bibell. Clywodd llawer un Ap
Vychan yn dweyd mai yn Hafod y Bibell y dymunai fyw, Darluniai'r
golygfeydd welid o'r hafod honno,--y mynyddoedd, gwaelod dyffryn
Penanlliw a Llanuwchllyn, a Llyn Tegid hefyd am wn i. Tybiai pobl
ddieithr, wrth glywed Ap Vychan yn darlunio'r lle, mai palas y gellid ei
alw'n Ddymunol, yng ngwlad Beulah, oedd Hafod y Bibell. A dyma'r
lle. Y mae'n dechre adfeilio erbyn hyn,--nid oes yno ond to diferllyd a
ffenestri gweig ion, fel tyllau llygad ysgerbwd. Y mae das o hen wair
yn y gadles yn ymyl, a llwybr glaswelltog i'r caeau, llwybr nad oes
erbyn hyn fawr o wahaniaeth rhyngddo a'r cae. Pe gwelai Ap Vychan
ef yn awr, hawdd fuasai iddo ddweyd geiriau Dafydd ab Gwilym am y
murddyn welodd mewn lle y buasai unwaith "yn glyd uwchben ei fyd
mwyn,"-
"Yn ddiau mae i'th gongl ddwy-och,
Continue reading on your phone by scaning this QR Code

 / 42
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.