ynddi daeth cyfnewidiad dros y diwrnod,--yn sydyn duodd yr awyr,
ymrwygai taranau dychrynllyd trwyddi, fflachiai mellt nes y byddai'r
eglwys dywell yn oleu a beddergryff teulu Llwydiarth yn ymddangos,
fel ysgrif gwledd Belsasar, yn amlwg ar ei mur. Doi rhyw ddarn emyn
o waith Ann Griffiths i'm cof o hyd, -
"Pan fo Sinai i gyd yn mygu, Sain yr udgorn uchaf radd, Caf fynd i
wledda dros y terfyn Yng ngrym yr aberth, heb fy lladd."
Rhedais drwy'r gwlaw bras trysfawr i'r hen westy hwn, a dyma fi. Y
mae amryw fforddolion fel y finne wedi troi i mewn am nodded ar fy ol,
ac mewn hwyl ysgwrsio a mi. Treiais dynnu ysgwrs am ysbrydion a
rheibio, ond cynnil iawn oedd eu hatebion,--yr oeddwn yn rhy debyg i
bregethwr. Yr oedd yno un dyn deallus a llais dwfn mwyn, ffarmwr o
ardal Pontrobert; nid oedd gan y clochydd air ond ambell i amen yng
nghanol ysgwrs y lleill; yr oedd yno was ffarm, wedi gorfod ymadael
o'i le oherwydd yr "wimwimsa," fel y galwai yr influenza. Efe oedd y
prif siaradwr yn ein mysg. Cwynai nad oedd ganddo unlle ar y ddaear
las i droi iddo, ie, ei bod "wedi mynd yn draed moch ac yn botes llo"
arno. Wrth weled cot ddu am danaf, dechreuodd siarad ar bwnc dybiai
oedd yn gydweddol a'm chwaeth, sef Sian Hughes, Pontrobert, glywais
unwaith ar stryt y Bala, amser Sasiwn, yn pregethu yn erbyn y diafol a
sol-ffa. "Mi fydde'n son am iffern, a pheth whithig o bethe, wrth
fechgin ifinc," ebai'r gwas ffarm, yr hwn a ddychrynasid lawer o
weithiau, mae'n debyg, gan bregethau'r hen wraig. Yr oedd y Sian
Hughes honno, os nad wyf yn camgymeryd, yn ferch i Ruth, morwyn
Dolwar Fechan, ar gof yr hon y cadwyd emynnau Ann Griffiths.
Ond y mae'r cerbyd wrth y drws yn disgwyl, rhyw fath o drol ysgafn
gwlad, ac ystyllen ar ei thraws. Y mae'r awyr yn goleuo, y mae'r gwlaw
wedi troi'n wlithwlaw tyner, y mae'r aberoedd yn llawn at yr ymylon, y
mae'r coed yn tyfu i'w gweled wedi'r gwlaw maethlon. Cyn hir bydd
dau ar yr ystyllen groes, mewn trol glonciog, ar ffordd Llanfyllin; a
bydd un o honynt, o leiaf, yn meddwl am emyn, os nad yn ei ganu, -
"Gwna fi fel pren planedig o fy Nuw! Yn ir ar lan afonydd dyfroedd
byw; Yn gwreiddio ar led, a'i ddail heb wywo mwy, Yn ffrwytho dan
gawodydd dwyfol glwy."
TY COCH
Anaml y bu neb mor hoff o gartref ag Ap Vychan, ac anaml iawn y bu i
neb gartref tlotach. Ymysg mawrion gwlad, soniai am gymdeithion
dinod ei ieuenctyd; ac o balasau ehedai ei ddychymyg i'r ty to brwyn yn
yr hwn y dioddefodd eisieu bara, ac o'r hwn y gorfod iddo gychwyn i
gardota aml dro.
Saif y Ty Coch yn agos at aberoedd o ddwfr tryloew, yn ymyl hen
ffordd Rufeinig, dan gysgod castell rhy hen i neb fedru adrodd ei hanes,
ar fin mynydd sy'n ymestyn mewn mawredd unig o Lanuwchllyn i
Draws Fynydd. Y mae'n anodd cael taith ddifyrrach na'r daith o orsaf
Llanuwchllyn i Gastell Carn Dochan, os gwneir hi yn yr haf, a chan un
hoff o dawelwch ac awel iach oddiar eithin a grug y mynydd.
Dyma ni'n gadael yr orsaf, gan syllu ar brydferthwch yr Aran draw. Toc
trown ar y dde, a cherddwn dan goed sy'n taflu eu cysgodion dros y
ffordd. Dyma'r "adwy wynt," a hen gapel y Methodistiaid wedi ei droi'n
dai. Wrth y tai hyn, yn enwedig wrth y siop draw, digon tebyg y cewch
rywun y gellwch dynnu sgwrs ag ef, os ydych yn hoff o ymgom.
Hwyrach y tarewch ar hen ddiwinydd a'i bwys ar ei ffon. Hwyrach y
cyfarfyddwch a rhywun bydol,--hen wr a gwallt fel nadroedd sonia
wrthych am ddyfais newydd i wneyd cribiniau, neu am ryfeddodau
gwledydd pell. Hwyrach y cewch hen hanesydd ddywed wrthych fel y
byddem ni yn Llanuwchllyn yn byw yn yr hen oesoedd. Os na fydd neb
yno, a bydd y lle heb neb yn yr haf weithiau, cerddwch ymlaen ar hyd y
"Gwaliau, ac wedi croesi'r bont cawn ein hunain yng nghwr y Llan,
rhwng y fynwent a thai fu unwaith yn dy tafarn. Yn y fynwent honno, y
tu hwnt i'r eglwys, gorwedd Ap Vychan hyd ganiad yr udgorn. Ac yn y
ty tafarn hwnnw temtiwyd ef, pan yn laslanc tlawd, i yfed ei lasied
cyntaf o gwrw mewn cyfarfod beirdd.
Wedi gadael y Llan yr ydym yn dod i ffordd y Bala, ac yn cerdded yn
ein blaenau ar hyd-ddi, hyd nes y down at y Bont Liw a phentref
bychan Pen y Bont. Cyn croesi'r bont yr ydym yn troi ar y chwith, ac
yn cymeryd ffordd drol sydd

Continue reading on your phone by scaning this QR Code
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the
Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.