Gwaith Alun | Page 2

Alun
gasping for breath.
Dyspaidiad, in the intermission.
Eiriach, cynhilo
Elwch, llawenydd, gorfoledd.

Enrhaith, fellows.
Ffladr, caruaidd, taer wenieithus, anwyl.
Fflwch, llawn; buan.
Galon, gelynion.
Germain, shout.
Gofynaig, cais.
Gorthaw, distawrwydd, amynedd.
Gwawrwalch, a valiant man, a hero.
Graid, fire, urgency.
Gryw, Greek.
Gwaladr, tywysog, rheolwr.
Gyrr, attack, onset.
Hadledd, dirywiad, dinistr.
Heng, gwth, taith orfod.
Hirell, gleams of light.
Huddug, tywyll, trist.
Hwi'n golofn, form into a column.
Loes gwefrawl, electrical shock.
Lleuai, read.
Main, meini.

Mwd, tan y to, nenfwd.
Nwyfre, awyr, nef.
Rhialyd, natur, greddf.
Rhom, rhyngom.
Sarllach, bost, bloddest.
Sawdan, Soldan, Sultan.
Sitwyr, rangers, freebooters.
ALUN.
[Ym Mhonterwyl, Ger Y Wyddgrug: alun8.jpg]
"IDDO EF."
Dat. i. 5.
'Does testun gwiw i'm can
Ond cariad f' Arglwydd glan
A'i farwol glwy;
Griddfanau Calfari,
Ac angau Iesu cu,
Yw nghan
a mywyd i,
Hosanna mwy.
Paham bu i ddeddf y net
Ymaflyd ynddo EF,
A rhoi iddo glwy?
Fe roddwyd yn y drefn,
Fy meiau ar ei gefn;

Pwy na roi floedd drachefn--
Hosanna mwy.
Ergydiwyd ato EF,
Gan uffern, byd, a nef,
Eu saethau hwy:
Arhodd ei fwa'n gry',
Nes maeddu uffern ddu,
A

phrynu mywyd i,
Hosanna mwy.
Caniadau'r nefol gor,
Sydd oll i'm Harglwydd Ior
A'i ddwyfol glwy;
Y frwydr wedi troi,
Ellyllon wedi ffoi,--
Sy'n
gwneyd i'r dyrfa roi
Hosanna mwy.
O faint ei gariad EF!
Nis gall holl ddoniau'r nef,
Ei dreiddio drwy:
Mae hyn i mi'n beth syn,
I ruddfan pen y bryn

Droi'n gan i mi fel hyn,
Hosanna mwy.
Pan ddelo'r plant ynghyd,
O bedair rhan y byd,
I'w mangre hwy;
Tan obaith yn ddilyth,
Cael telyn yn eu plith,
I
ganu heb gwyno byth,
Hosanna mwy.
Tra bwyf ar riwiau serth,
Preswylydd mawr y berth,
Rho'th gwmni trwy;
Mae cofio am y loes
Dan arw gur y groes,

Yn rhyw feluso f'oes,
Hosanna mwy.
Na ddigied neb o'r plant,
Am imi ganu ar dant
O'u telyn hwy:
Myfyrio'r tywydd du
Fu ar ein Iesu cu,
A droes fy
nghan mor hy',
Hosanna mwy.

ANGAU.
_Englynion a ysgrifenwyd yn ddifyfyr ym mynwent y
Wyddgrug_.
"Ni foddir (mae'n rhyfeddol)--chwai angau,
A chyngor dymunol;
Er wban, griddfan greddfol,
(Uthr in' yw!) ni
thry yn ol.
Er gwaedd mam,--er gweddi myrdd,
Er gwen byd,--er gwyneb hardd,
Er swn cwyn,--er seinio cerdd,
Er
ing ffull, mynn angau'i ffordd.
Ni eiriach rai bach rhag bedd,--i'r cedyrn
Rhoir codwn i'r dyfn-fedd;
A mirain feibion mawredd
Ostyngir,
siglir o'u sedd.
I'r llaid yr aeth fy nhaidiau,--i huno,
Fu'n heinyf er's dyddiau:
I'r ystafell dywell dau,
Ryw funud, yr af
innau.
Ond cael nod hynod, a hedd--yr Iesu,
A drws i dangnefedd;
Yn dawel yn y diwedd,
Af i gaban bychan
bedd.
CYMDEITHAS GYMREIGYDDOL CAERLLEON.
Boed llwydd, mewn pob dull addas,--a chynnydd
I'ch enwog Gymdeithas;
Heb stwr, na chynnwr, na chas--
Geni
beirdd heirdd fo'i hurddas.
Bu gannoedd drwy bob gweniaith,--addefent,

Am ddifa'r Omeriaith;
Aent hwy i lawr i fynwent laith--
I fyny
safai'r fwyn-iaith.
Heddyw gwelaf na faidd gelyn--er gwyn,
Roi gair yn ei herbyn;
A dolef gref sy'n dilyn,
"A lwyddo Duw, ni
ludd dyn."
Cur llawer fu Caerlleon,--y gw'radwydd
Sy'n gwrido hanesion;
Am groesi'r Clawdd hir i hon,
Brethid
calonnau Brython.
'Nawr Cymry gant wisgant wen,
Chwarddu gant a cherddi gwin,
Ceir bri, a chwmni, a chan,
O fewn
Caer heb ofn y cwn.
Byw undeb, gyda bendith,--a daenir
O'ch doniawl athrylith:
Gelyn breg, rhwyg rheg rhagrith
I
chwerwi'ch plaid, na chaer i'ch plith.
DAU ENGLYN
Ar Briodas Mr. P. Williams a Miss Whitley, Broncoed.
Gan Naf eiddunaf i'r ddau--bob undeb,
A bendith, a grasau,
I fyw'n hir, ac i fwynhau
Dedwyddwch hyd eu
dyddiau.
Eirchion y gwaelion heb gelu,--pur rad
Parhaus fo'n defnynnu:
Pob urddawl ollawl allu
Iddyn' ddel--medd
Ioan Ddu.
Tach., 1812

GENEDIGAETH IORWERTH II.
Llais llid Iorwerth.
Clywch! clywch! ar hyd lannau Clwyd
Ryw swn oersyn o arswyd!

Gorthaw'r donn, cerdda'n llonydd,
Ust! y ffrwd,--pa sibrwd sydd?
O
Ruddlan daw'r ireiddlef
Ar ael groch yr awel gref;
Geiriau yr euog
Iorwerth,
O 'stafell y Castell certh;
Bryd a chorff yn ddiorffwys,--

Hunan-ymddiddan yn ddwys:
Clywch, o'r llys mewn dyrys don,

Draw'n sisial deyrn y Saeson,--
"Pa uffernol gamp ffyrnig?
A pha
ryw aidd dewraidd dig?
Pa wrolwymp rialyd
Sy'n greddfu trwy
Gymru 'gyd?
Bloeddiant, a llefant rhag llid,
Gawrwaeddant am deg
ryddid,--
'Doed chwerwder, blinder, i blaid
Ystryw anwar estroniaid;

Ein gwlad, a'n ffel wehelyth,--
Hyd Nef,' yw eu bonllef byth;
Ac
adsain main y mynydd,--
Och o'u swn!--yn gasach sydd;
'Ein gwlad
lan amhrisiadwy,'
Er neb, yw eu hateb hwy.
"Pa les yw fod im' glod glan
Am arswydo'r mawr Sawdan,--
Pylu
asteilch Palestin,
Baeddu Tyrciaid, bleiddiaid blin;
Troi Chalon
wron i weryd,
Ie, curo beilch wyr y byd,--
Os Gwalia wen,--heb
bennaeth,
A'i mawrion gwiwlon yn gaeth,--
Heb fur prawf,--heb
farrau pres,
Na lleng o wyr, na llynges,--
A ymheria fy mawr-rwysg,

Heb fy nghyfri'n Rhi mewn rhwysg?
Er cweryl gyda'r cawri,
A
lladd myrdd, nid llwydd i mi;
Ni fyddaf, na'm harfeddyd,
Ond
gwatwor tra byddo'r byd.
"Ha! ymrwyfaf am ryfel,

O'm plaid llu o ddiafliaid ddel:
Trowch
ati'r trueni trwch,
Ellyllon! gwnewch oll allwch.
"I ti, O Angeu, heddyw y tyngaf,
Mai am ddialedd mwy y meddyliaf;

Eu holl filwyr, luyddwyr, a laddaf,
Un awr eu bywydau ni arbedaf;

Oes, gwerth, i hyn aberthaf,--gwanu hon
Drwy ei chalon fydd fy
ymdrech olaf.
Dichell Iorwerth.

"Ha! ha! Frenin blin, i ble
Neidiodd dy siomgar nwyde?
Oferedd,
am hadledd hon,
Imi fwrw myfyrion;
Haws fydd troi moelydd, i mi,

Arw aelgerth, draw i'r weilgi,
Nac i ostwng eu cestyll,
Crog hagr,
sef
Continue reading on your phone by scaning this QR Code

 / 26
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.