Gwaith Alun

Alun
The Project Gutenberg eBook, Gwaith Alun, by Alun, Edited by Owen
M. Edwards, Illustrated by John Thomas
This eBook is for the use of anyone anywhere at no cost and with
almost no restrictions whatsoever. You may copy it, give it away or
re-use it under the terms of the Project Gutenberg License included
with this eBook or online at www.gutenberg.net

Title: Gwaith Alun
Author: Alun
Release Date: February 1, 2005 [eBook #14865]
Language: Welsh
Character set encoding: ISO-646-US (US-ASCII)
***START OF THE PROJECT GUTENBERG EBOOK
GWAITH ALUN***
Transcribed from the 1909 Ab Owen edition by David Price, email
[email protected]

GWAITH ALUN
[John Blackwell (Alun): alun0a.jpg]
[Gwaith Alun: alun0b.jpg]
Rhagymadrodd.
Ganwyd John Blackwell (Alun) mewn bwthyn ger y Wyddgrug yn
1797. Un o Langwm oedd ei fam--gwraig ddarbodus a meddylgar; a
dilynai ei mab hi i'r seiat a'r Ysgol Sul, gan hynodi ei hun fel dysgwr
adnodau ac adroddwr emynau. Mwnwr call, dwys, distaw, oedd ei dad,
a pheth gwaed Seisnig ynddo; cydymdeimlai yntau a'i fachgen.
Yn unarddeg oed, heb addysg ysgol ond yn awyddus am wybodaeth,

prentisiwyd ef gyda chrydd oedd yn fardd. Pan yn ddwy ar bymtheg,
wedi bwrw ei brentisiaeth, medrai fforddio prynnu llyfrau; a cherddai'n
aml i Gaer i chwilio'r siopau. Derbyniai gylchgronau, prynnai lyfrau
Cymraeg, chwiliai am feirdd. Llenorion yr ardal oedd ei gyfeillion, y
gynghanedd ei hoffter.
Yn 1823 disgleiriodd fel seren yn awyr Eisteddfod Cymru. Yn
Eisteddfodau Rhuthyn, Caerwys a'r Wyddgrug tynnodd sylw; gyda'i
awdl Genedigaeth Iorwerth II. yn y gyntaf, a chyda'i awdl Maes
Garmon yn yr olaf. Yr oedd ei fryd erbyn hyn ar gymeryd urddau
eglwysig, a chafodd noddwyr caredig.
Yn 1824 aeth i'r Beriw, pentref hyfryd ger y fan yr abera afon Rhiw i
afon Hafren. Yma dysgai Ladin a Groeg gyda'r ficer, y Parch. Thomas
Richards. Yn y lle tawel Seisnig hwn, cymerodd ei awen edyn
ysgafnach, cywreiniach. Clerigwyr pobtu'r Hafren oedd ei gyfeillion, ac
yn eu mysg yr oedd Gwallter Mechain ac Ifor Ceri. Yma, at Eisteddfod
y Trallwm, y cyfansoddodd ei draethawd gorchestol ar yr iaith
Gymraeg.
Yn Rhagfyr, 1825, ymaelododd yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen;
pasiodd ei arholiad gradd olaf ym Mai, 1828. Ymdrechodd yn galed; a'i
fryd ar lwyddiant yn yr arholiadau, ar astudio llenyddiaeth Gymreig, ac
ar ymbaratoi at waith pwysig ei fywyd. Gloewodd ei awen, a dysgodd
felodi newydd, yng nghwmni Homer a Vergil.
Daeth adre at Eisteddfod Dinbych yn 1828; cafodd ynddi wobr am ei
Farwnad Heber, a chynrychiolai ei gyd-efrydydd Ieuan Glan
Geirionydd, trwy eistedd drosto yn y gader enillasai awdl Gwledd
Belsasar.
Ionawr 15, 1829, ordeiniwyd Alun yn gurad Treffynnon. Bu yno, yn
fawr ei barch fel gweinidog a llenor, hyd 1833, pryd y rhoddodd
Arglwydd Brougham iddo fywoliaeth Maenor Deifi ym Mhenfro. Yn
1834 cychwynodd y Cylchgrawn, cylchgrawn gwybodaeth fuddiol,
mewn rhyddiaith clasurol a phur. Yr oedd y Gwladgarwr eisoes ar y
maes; a digiodd Alun ei gyfeillion, yn enwedig Ieuan Glan Geirionydd
ac Erfyl, am wrth-ymgais. Ond ychydig elynion fu iddo. Yr oedd mor

anhunangar a hael ei ysbryd, mor ddifyr a mwyn ei gwmni, mor bur ei
fuchedd.
Bu farw Mai 19, 1840; a chladdwyd ef ym Maenor Deifi. Cyhoeddwyd
ei waith yn 1851.
Eos Cymru oedd Alun,--yn felus a dwys yr erys ei nodau yng nghlust ei
genedl.
OWEN M. EDWARDS.
Ebrill 9, 1909.
Cynhwysiad.
[Ceisiwyd trefnu'r darnau mor agos ag y gellid i'w trefn amseryddol.]
I. Y WYDDGRUG. 1797-1824.
Iddo Ef
Angau
Cymdeithas Caer
Dau Englyn Priodas

Genedigaeth Iorwerth II.
Cerdd Gwyliedydd y Wyddgrugr
Llwydd
Groeg
Eisteddfod Caerwys
Dafydd Ionawr
Gwyl Ddewi

Eisteddfod y Wydderug
Rhywun
Maes Garmon
II. ABERIW. 1824.
Bywyd yn Aberiw
Ifor Ceri
Emyn Pasg
Englyn i Ofyddes
A
Pha Le Mae? (Cyf.)
Eisteddfod y Trallwm
Caroline
Beddargraff

Bugeilgerdd
Yr Hen Amser Gynt
I --
Gadael Rhiw
III. RHYDYCHEN. 1825-1828.
At Gyfaill
College Life
At Lenor
Telyn Cymru
At ei Rieni

Cywydd y Gwahawdd
Disadvantages and Aims
Calvinism
At ei
Fam, pan oedd Weddw
Cwyn ar ol Cyfaill
Marwolaeth Heber

Seren Bethlehem
IV. BLYNYDDOEDD ERAILL. 1828-1840.

At Manor Deifi
Cathl yr Eos
Abad-dy Tintern
Can Gwraig y
Pysgotwr
Y Ddeilen Grin
Y Darluniau.
ALUN
"Does destyn gwiw i'm can,
Ond cariad f' Arglwydd glan."
COLOFN MAES GARMON--S. MAURICE JONES.
CARTREF MEBYD ALUN--S. MAURICE JONES.
CASTELL CONWY {1a}
"Ar furiau tref ai rhaid trin
Anhoff astalch a ffestin?"
MARATHON
"Gwnawn weunydd a llwynydd llon,
Mawr hwythau, fel Marathon"
CAERWYS {1b}
"Lluman arfoll Minerfa
Sydd uwch Caerwys ddilys dda."
RHYWUN {1c}
"Gwyn ac oer yw eira Berwyn."
UN O HEOLYDD CAERWYS
"Hawddamor bob gradd yma, orwych feirdd."
YR AMSER GYNT {1d}
"Bu'n hoffi mi, wrth deithio 'mhell
Gael croesaw ar fy hynt."
GWRAIG Y PYSGOTWR

"Dwndwr daear sydd yn darfod,
Cysga dithau ar dy dywod."
Rhai Geiriau.
[Lle rhoddir yr esboniad yn Saesneg, dealler mai esboniad Alun ei hun
yw hwnnw.]
Abred, ystad dadblygiad trwy gyfnod drwg anelwig i ddynoliaeth hapus;
"treiglo abred," mynd trwy holl dro trawsfudiad.
Arfeddyd, bwriad, amcan.
Balawg, uchel.
Brathawg, apt to stab, assassinating.
Breila, breilw, rhosyn.
Breyr, uchelwr, gwrda, barwn.
Callawr, crochan.
Deddyw, daeth.
Diachreth, di-gryn, cadarn.
Diarynaig, hero
Digrawn, llifol, heb gronni
Digyrrith, hael, caredig.
Dyheuent,
Continue reading on your phone by scaning this QR Code

 / 26
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.