The Project Gutenberg EBook of Yr Hwiangerddi, by Owen M. 
Edwards 
Copyright laws are changing all over the world. Be sure to check the 
copyright laws for your country before downloading or redistributing 
this or any other Project Gutenberg eBook. 
This header should be the first thing seen when viewing this Project 
Gutenberg file. Please do not remove it. Do not change or edit the 
header without written permission. 
Please read the "legal small print," and other information about the 
eBook and Project Gutenberg at the bottom of this file. Included is 
important information about your specific rights and restrictions in how 
the file may be used. You can also find out about how to make a 
donation to Project Gutenberg, and how to get involved. 
**Welcome To The World of Free Plain Vanilla Electronic Texts** 
**eBooks Readable By Both Humans and By Computers, Since 
1971** 
*****These eBooks Were Prepared By Thousands of 
Volunteers!***** 
Title: Yr Hwiangerddi 
Author: Owen M. Edwards 
Release Date: May, 2005 [EBook #8194]
[This file was first posted 
on June 30, 2003]
[Most recently updated: June 30, 2003] 
Edition: 10 
Language: Welsh 
Character set encoding: US-ASCII 
0. START OF THE PROJECT GUTENBERG EBOOK, YR
HWIANGERDDI *** 
Transcribed by David Price, email 
[email protected]
 
YR HWIANGERDDI 
RHAGYMADRODD. 
Ambell orig daw hen hwiangerdd, fel su melodaidd o gartref pell a hoff, 
i'r meddwl. Daw un arall ar ei hol, ac un arall,--a chyda hwy daw 
adgofion cyntaf bore oes. Daw'r llais mwynaf a glywsom erioed i'n 
clust yn ol, drwy stormydd blynyddoedd maith; daw cof am ddeffro a 
sylwi pan oedd popeth yn newydd a rhyfedd. A daw ymholi ond odid. 
Beth yw tarddle swyn yr hen gerddi hwian syml hyn? Pa nifer ohonynt 
fedraf? Pa nifer sydd ohonynt yn llenyddiaeth Cymru? A ydynt yn 
llenyddiaeth? Beth fu eu dylanwad ar fy mywyd? A adawsant ryw nod 
ar lenyddiaeth Cymru? 
O ble y daethant? Y mae iddynt ddau darddiad. Yn un peth,--y maent 
yn adlais o ryw hen bennill genid gyda'r delyn. Cofid y rhannau mwyaf 
melodaidd, rhyw seiniau fynnai aros yn y glust, gan fam neu forwyn, a 
byddent yn llais i lawenydd y galon wrth suo'r plentyn i gwsg. A 
ffynhonnell arall,--yr oedd y fam yn creu cerddi hwian, nid i wneyd i'r 
plentyn gysgu, ond i'w gadw'n ddiddig pan ar ddihun. Ac y mae cof 
gwlad wedi trysori ymgais y mamau mwyaf athrylithgar. 
Ar ei fysedd y sylwa plentyn i ddechreu. Hwy ddefnyddia'r fam yn 
deganau cyntaf. Rhoddir enwau arnynt,--Modryb 'y Mawd, Bys yr uwd, 
Hirfys, Cwtfys, Bys bach, neu ryw enwau ereill. Gwneir iddynt chware 
a'u gilydd; llechant yng nghysgod eu gilydd, siaradant a'u gilydd; ant 
gyda'u gilydd i chware, neu i hel gwlan, neu i ladd defaid i'r mynydd. 
Yr oedd yr olaf yn fater crogi yr adeg honno, ac felly yr oedd y chware 
yn un pur gyffrous. Yr oedd i bob bys gymeriad hefyd; bys yr uwd 
oedd y cynlluniwr, yr hirfys oedd y gweithiwr cryf eofn, y cwtfys oedd 
y beirniad ofnus, a'r bys bach, druan, oedd yn gorfod dilyn y lleill neu 
gario dwr. Yn llenyddiaeth gyntaf plentyn, y bysedd yw'r actors yn y 
ddrama. 
Wedi'r bysedd, y traed oedd bwysicaf. Eid trwy yr un chware gyda
bysedd y traed drachefn. A difyr iawn oedd pedoli, curo gwadnau'r 
traed bob yn ail, a phedoli dan ganu. 
Nodwedd bennaf plentyn iach, effro yw, nas gall fod eiliad yn llonydd. 
Mae pob gewyn ynddo ar fynd o hyd. Ac y mae mynd yn yr hen 
hwiangerddi. Gorchest arwrol gyntaf plentyn yw cael ei ddawnsio'n 
wyllt ar y lin. "Gyrru i Gaer" yw anturiaeth fawr gyntaf dychymyg y 
rhan fwyaf o blant Cymru. Ac y mae afiaeth mawr i fod ar y diwedd, i 
ddynodi rhyw drychineb ysmala,--dod adre wedi priodi, boddi yn y 
potes, neu dorri'r pynnaid llestri'n deilchion. Mae'r coesau a'r breichiau 
bychain i fynd ar eu gwylltaf, ac y mae edyn man dychymyg y plentyn 
yn chware'n wyllt hefyd. 
Yr un cerddi hwian, mewn llais distawach, dwysach, a suai y plentyn i 
gwsg. Ai'r llong i ffwrdd yn ddistaw, carlamai'r cel bach yn esmwyth, 
doi'r nos dros furiau Caer. 
A yw'r hwiangerddi'n foddion addysg? Hwy rydd addysg oreu
plentyndod. Am genedlaethau'n ol, ceisid dysgu plant yn yr ysgol o 
chwith. Ceisid eu cadw'n llonydd, a hwythau'n llawn awydd symud. 
Ceisid eu cadw'n ddistaw, a hwythau'n llawn awydd parablu. Dofi, 
distewi, disgyblu oedd o hyd. Erbyn hyn deallir egwyddorion dysgu 
plentyn yn well. Gellid rhoddi rhestr hir o athronyddion dysg plant, a 
dangos fel y gwelsant, o un i un yn raddol, wir ddull dysgu plant. A'r 
dull hwnnw yw,-- dull yr hwiangerddi. Dysgir y plentyn i astudio'i 
fysedd. Ca fynd ar drot ac ar garlam yr adeg y mynno. Ac ymhob cerdd, 
daw rhyw agwedd darawiadol ar y natur ddynol i'r golwg. Ei siglo'n 
brysur