Yr Hwiangerddi

Owen M. Edwards
見The Project Gutenberg EBook of Yr Hwiangerddi, by Owen M. Edwards
Copyright laws are changing all over the world. Be sure to check the copyright laws for your country before downloading or redistributing this or any other Project Gutenberg eBook.
This header should be the first thing seen when viewing this Project Gutenberg file. Please do not remove it. Do not change or edit the header without written permission.
Please read the "legal small print," and other information about the eBook and Project Gutenberg at the bottom of this file. Included is important information about your specific rights and restrictions in how the file may be used. You can also find out about how to make a donation to Project Gutenberg, and how to get involved.
**Welcome To The World of Free Plain Vanilla Electronic Texts**
**eBooks Readable By Both Humans and By Computers, Since 1971**
*****These eBooks Were Prepared By Thousands of Volunteers!*****
Title: Yr Hwiangerddi
Author: Owen M. Edwards
Release Date: May, 2005 [EBook #8194]?[This file was first posted on June 30, 2003]?[Most recently updated: June 30, 2003]
Edition: 10
Language: Welsh
Character set encoding: US-ASCII
? START OF THE PROJECT GUTENBERG EBOOK, YR HWIANGERDDI ***
Transcribed by David Price, email [email protected]
YR HWIANGERDDI
RHAGYMADRODD.
Ambell orig daw hen hwiangerdd, fel su melodaidd o gartref pell a hoff, i'r meddwl. Daw un arall ar ei hol, ac un arall,--a chyda hwy daw adgofion cyntaf bore oes. Daw'r llais mwynaf a glywsom erioed i'n clust yn ol, drwy stormydd blynyddoedd maith; daw cof am ddeffro a sylwi pan oedd popeth yn newydd a rhyfedd. A daw ymholi ond odid. Beth yw tarddle swyn yr hen gerddi hwian syml hyn? Pa nifer ohonynt fedraf? Pa nifer sydd ohonynt yn llenyddiaeth Cymru? A ydynt yn llenyddiaeth? Beth fu eu dylanwad ar fy mywyd? A adawsant ryw nod ar lenyddiaeth Cymru?
O ble y daethant? Y mae iddynt ddau darddiad. Yn un peth,--y maent yn adlais o ryw hen bennill genid gyda'r delyn. Cofid y rhannau mwyaf melodaidd, rhyw seiniau fynnai aros yn y glust, gan fam neu forwyn, a byddent yn llais i lawenydd y galon wrth suo'r plentyn i gwsg. A ffynhonnell arall,--yr oedd y fam yn creu cerddi hwian, nid i wneyd i'r plentyn gysgu, ond i'w gadw'n ddiddig pan ar ddihun. Ac y mae cof gwlad wedi trysori ymgais y mamau mwyaf athrylithgar.
Ar ei fysedd y sylwa plentyn i ddechreu. Hwy ddefnyddia'r fam yn deganau cyntaf. Rhoddir enwau arnynt,--Modryb 'y Mawd, Bys yr uwd, Hirfys, Cwtfys, Bys bach, neu ryw enwau ereill. Gwneir iddynt chware a'u gilydd; llechant yng nghysgod eu gilydd, siaradant a'u gilydd; ant gyda'u gilydd i chware, neu i hel gwlan, neu i ladd defaid i'r mynydd. Yr oedd yr olaf yn fater crogi yr adeg honno, ac felly yr oedd y chware yn un pur gyffrous. Yr oedd i bob bys gymeriad hefyd; bys yr uwd oedd y cynlluniwr, yr hirfys oedd y gweithiwr cryf eofn, y cwtfys oedd y beirniad ofnus, a'r bys bach, druan, oedd yn gorfod dilyn y lleill neu gario dwr. Yn llenyddiaeth gyntaf plentyn, y bysedd yw'r actors yn y ddrama.
Wedi'r bysedd, y traed oedd bwysicaf. Eid trwy yr un chware gyda bysedd y traed drachefn. A difyr iawn oedd pedoli, curo gwadnau'r traed bob yn ail, a phedoli dan ganu.
Nodwedd bennaf plentyn iach, effro yw, nas gall fod eiliad yn llonydd. Mae pob gewyn ynddo ar fynd o hyd. Ac y mae mynd yn yr hen hwiangerddi. Gorchest arwrol gyntaf plentyn yw cael ei ddawnsio'n wyllt ar y lin. "Gyrru i Gaer" yw anturiaeth fawr gyntaf dychymyg y rhan fwyaf o blant Cymru. Ac y mae afiaeth mawr i fod ar y diwedd, i ddynodi rhyw drychineb ysmala,--dod adre wedi priodi, boddi yn y potes, neu dorri'r pynnaid llestri'n deilchion. Mae'r coesau a'r breichiau bychain i fynd ar eu gwylltaf, ac y mae edyn man dychymyg y plentyn yn chware'n wyllt hefyd.
Yr un cerddi hwian, mewn llais distawach, dwysach, a suai y plentyn i gwsg. Ai'r llong i ffwrdd yn ddistaw, carlamai'r cel bach yn esmwyth, doi'r nos dros furiau Caer.
A yw'r hwiangerddi'n foddion addysg? Hwy rydd addysg oreu?plentyndod. Am genedlaethau'n ol, ceisid dysgu plant yn yr ysgol o chwith. Ceisid eu cadw'n llonydd, a hwythau'n llawn awydd symud. Ceisid eu cadw'n ddistaw, a hwythau'n llawn awydd parablu. Dofi, distewi, disgyblu oedd o hyd. Erbyn hyn deallir egwyddorion dysgu plentyn yn well. Gellid rhoddi rhestr hir o athronyddion dysg plant, a dangos fel y gwelsant, o un i un yn raddol, wir ddull dysgu plant. A'r dull hwnnw yw,-- dull yr hwiangerddi. Dysgir y plentyn i astudio'i fysedd. Ca fynd ar drot ac ar garlam yr adeg y mynno. Ac ymhob cerdd, daw rhyw agwedd darawiadol ar y natur ddynol i'r golwg. Ei siglo'n brysur ar y glin i swn rhyw hen gerdd hwian,-- dyna faban ar ben gwir Iwybr ei addysg. Ni fyddaf yn credu
Continue reading on your phone by scaning this QR Code

 / 13
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.