A free download from www.dertz.in       
 
The Project Gutenberg eBook, Gwaith Samuel Roberts, by Samuel 
Roberts, Edited by Owen M. Edwards 
This eBook is for the use of anyone anywhere at no cost and with 
almost no restrictions whatsoever. You may copy it, give it away or 
re-use it under the terms of the Project Gutenberg License included 
with this eBook or online at www.gutenberg.net 
Title: Gwaith Samuel Roberts 
Author: Samuel Roberts 
Release Date: December 14, 2004 [eBook #14354] 
Language: Welsh 
Character set encoding: ISO-646-US (US-ASCII) 
***START OF THE PROJECT GUTENBERG EBOOK 
GWAITH SAMUEL ROBERTS*** 
Transcribed from the 1906 Ab Owen edition by David Price, email 
[email protected] 
GWAITH SAMUEL ROBERTS. (S. R.) 
Rhagymadrodd. 
Ganwyd Samuel Roberts yn Llanbrynmair, Mawrth 6, 1800. Bu farw 
yng Nghonwy, Medi 24, 1885; ac ym mynwent gyhoeddus Conwy y 
rhoddwyd ef i huno. 
O'r Diwygiad y cododd teulu galluog S. R. Yr oedd ei dad, John 
Roberts, er 1798 yn olynydd i Richard Tibbot a Lewis Rees fel 
gweinidog Hen Gapel Llanbrynmair. Dyma enwau aelodau mwyaf 
adnabyddus y teulu,--
John  Roberts  -  Mary  Brees  y  Coed. 
                  (1767-1834)  | 
                               |  
+--------+------------+--------+-------------+
Maria Samuel Anna John 
Richard
(1797) (S.R.) (1801) (J.R.) (Gruffydd Rhisiart) 
| (1800-1885) (1804-1884) (1810-1883) |
Gohebydd 
 . 1877. 
Symudodd John Roberts a'i deulu, tua 1806, o Dy'r Capel i ffermdy y 
Diosg dros yr afon ar gyfer. "Tyddyn bychan gwlyb, oer, creigiog, anial, 
yng nghefn haul, ar ochr ogleddol llechwedd serth" oedd y Diosg; ac 
efe yw Cilhaul. 
Daeth S. R. yn gynorthwywr i'w dad fel gweinidog yn 1827; dilynodd 
ef fel tenant y Diosg yn 1834. Cyn 1856, yr oedd y brodyr wedi 
penderfynu gadael Llanbrynmair,--aeth J. R. yn weinidog i Ruthyn, a 
hwyliodd S. R. a Gruffydd Rhisiart i'r America. 
Cychwynodd S. R. o Lerpwl Mai 6, 1857; cyrhaeddodd yno 'n ol Awst 
30, 1867. Yr oedd wedi ei siomi yn y gorllewin ac wedi troi ei gefn ar 
dy ei alltudiaeth,--Bryn y Ffynnon, Scott Co., East Tennessee. Cafodd 
ei dwyllo gan y rhai oedd yn gwerthu tir; darlunnir hwy ym Martin 
Chuzzlewit Dickens. Nid oedd wedi sylweddoli, hwyrach, mor erwin 
yw'r ymdrech mewn gwlad anial. A daeth y Rhyfel Cartrefol i andwyo 
ei amgylchiadau. Teimlai fod y ddwy ochr i'w beio, ac mai dyledswydd 
y Gogledd oedd talu pris rhyddhad y caethion i wyr y De. 
O 1867 ymlaen ail ymunodd y teulu, a bu'r tri brawd byw yn yr un 
cartref yng Nghonwy hyd nes y cludwyd hwy i'r un fynwent. 
Ychydig iawn oedd yn fwy adnabyddus nag S. R. yn ei ddydd yng 
Nghymru. Bu ef a'i frodyr mewn llu o ddadleuon,--y mae y gornestwyr 
oll wedi tewi erbyn hyn,--a gwnaethant lawer i ddeffro gwlad. Bu ei 
Gronicl yn foddion addysg i filoedd. Bu ef ei hun yn llais i amaethwyr 
Cymru, ac yn llais i werin yn erbyn gorthrwm o bob math. 
Cyhoeddwyd cofiant am dano ef a'i frodyr yn y Bala, gan y Dr. E. Pan 
Jones.
Wele ddwy ran nodweddiadol o'i waith. Bu y Caniadau yn hynod 
boblogaidd; y teulu yn Llanbrynmair yw'r "Teulu Dedwydd." Hwy 
hefyd yw teulu "Cilhaul," ac y maent y darlun goreu a chywiraf o 
ffermwyr Cymru dynnwyd eto. 
OWEN EDWARDS.
Llanuwchllyn,
Awst 1, 1906. 
[Photograph of Samuel Roberts, Llanbrynmair: sr1.jpg] 
CYNHWYSAID. 
0. CANIADAU BYRION. 
[Argraffwyd y Caniadau hyn laweroedd o weithiau, ac y maent wedi 
bod yn foddion cysur i genhedlaethau o werinwyr. Dont o flaen adeg y 
Bardd Newydd, nid oes dim yn gyfriniol yn eu dyngarwch syml, eu 
tynherwch mwyn, a'u synwyr cyffredin cryf.] 
Y Teulu Dedwydd
Marwolaeth y Cristion
Y Lili Gwywedig
Can 
y Nefoedd
Ar farwolaeth maban
Y Cristion yn hwylio i for 
gwynfyd
Cwyn a Chysur Henaint
Mae Nhad wrth y Llyw
Y Ddau 
Blentyn Amddifad
Cyfarchiad ar Wyl Priodas
Dinystr Byddin 
Sennacherib
Gweddi Plentyn
Cwynion Yamba, y Gaethes ddu
Y 
creulondeb o fflangellu benywod
Y fenyw wenieithus
Y Twyllwr 
hudawl
Darostyngiad a Derchafiad Crist
Buddugoliaethau yr 
Efengyl yn y Mil Blynyddoedd 
II. CILHAUL UCHAF. 
[Darlun o fywyd amaethwr, a'i ofidiau, yn hanner cyntaf y ganrif 
ddiweddaf. Mae'n fyw ac yn werthfawr am ei fod yn wir. Dyma'r 
bywyd gynhyrchodd oreu Cymru, a dyma'r bywyd hapusaf a iachaf yn 
y byd.] 
John Careful, Cilhaul Uchaf. Senn y Steward. Gwobrwyon John 
Careful am wella ei dir,--I. Colli ei arian. II. Codi ei rent. III. Codi'r 
degwm. IV. Codi'r trethi. V. Rhoi cerdod i Peggy Slwt Slow nes y cai 
fynd ar y plwy. VI. Rhoi benthyg arian i Billy Active i ymfudo.
Jacob Highmind. Cario chwedlau i'r steward. Notice to quit i John 
Careful. 
Pryder y teulu; troi