Gwaith Samuel Roberts | Page 9

Samuel Roberts
am oludoedd trugaredd yr Ior;?Dilynant afonydd, ant trwy anial-diroedd,
A dringant fynyddoedd clogwynog yr ia,?I ddangos i adyn ar suddo mewn adfyd
Fodd i achub ei fywyd a symud ei bla.
Mae llwythau yr Oen, wrth dy weld, yn gwroli,
Llawenydd a chan sy'n coroni eu pen;?Mae gwresog ber anadl eu cariad a'u gweddi
Yn chwalu'r cymylau fu rhyngddynt a'r nen;?A gwelir ysprydoedd y perffaith gyfiawnion,
Fel cwmwl o dystion ar furiau y nef,?Yn plygu i wrando'u plethedig ganiadau,
Gan hwylio'u telynau i ateb eu llef.
Daeth Iesu o Bosra a'i ddillad yn gochion,
Gan ymdaith yn eon yn amlder ei rym;?Enillodd holl yspail y tywysogaethau,
Gall ddial, neu faddeu,--ei gledd sydd yn llym;?O'i orsedd llefara mewn iawnder a chariad,
Mae'n gwisgo agoriad awdurdod a bri;?Gan hynny ni lwydda dy elyn na'i luoedd,
Mae Brenin y nefoedd yn Noddwr i ti.
Wrth wrando dy gais dros y Gwr a groeshoeliwyd,
Dwysbigwyd calonnau myrddiynau cyn hyn,?A denwyd trueiniaid i droi eu hwynebau
O swynol lwyn Daphne i Galfari fryn;?Dadblygaist dy faner ar brif-ddinas Rhufain,
Ce'st luoedd yn Athen i ganmol y gwaed;?A golchaist yn Nghorinth dorf fawr o'r rhai duaf,
Gan wisgo mewn gwyn yr aflanaf a gaed.
Dy lais yn oes Luther ddychrynnodd y bwystfil,
Dy wen doddodd galon y Greenlander draw,?A dofwyd cynddaredd y Bushman trwy'th eiriau,
Nes gollwng ei saethau gwenwynigo'i law;?Dy felus beroriaeth trwy helaeth goedwigoedd
America fras, ac Ynysoedd y De,?A ddenodd farbariaid o'u dawns yn y llwyni,
I wrando a chanu am gariad y Ne'.
Dihunodd yr udgyrn gydwybod Brytania
I ollwng wyth gan-mil o'i chaethion yn rhydd;?A gyrraist gyflawnder o ber-falm Calfaria
I wella archollion y galon fu'n brudd;?O gylch elor gormes mae myrdd o gadwynau
Ar wasgar yn ddarnau drylliedig dan draed;?A'r famaeth a'i maban sy'n llon gadw jubil
Uwch bedd yr anghenfil fu'n meddwi ar waed.
Gorchfygodd yr Oen i agoryd y seliau,
A llawn yw'r phiolau ar allor y nef;?Hardd sefyll o'u cylch mae eneidiau'r merthyron,
Mewn gynau claerwynion, yn llawen eu llef;?O'u llwch cododd ysbryd a ddryllia'r cadwynau
Fu'n dal cydwybodau am oesoedd yn gaeth;?Pinaglau coelgrefydd yn chwilfriw a chwelir,
A'r gelyn ymlidir i'r llyn o'r lle daeth.
Bu anghymedroldeb yn llifo am oesau,
Bu'n lledu ei donnau fel dylif o dan;?A chyfoeth, a chysur, a bywyd myrddiynau,
Er pob atal-furiau, ysgubid o'i flaen;?Ond codaist dy faner er atal ei ymchwydd,
A safodd yn ebrwydd, a chiliodd mewn brys;?Ac 'nawr lle bu'r gelyn yn creulawn deyrnasu,
Mae rhinwedd yn codi hardd orsedd ei lys.
Bu erchyll olwynion car Moloch Hindostan
Yn treiglo dros balmant o esgyrn a gwaed,?A myrdd o rai gwallgof dan floeddio'n ei dynnu,
Gan fathru eu plant a'u rhieni dan draed;?Ond safodd er's dyddiau, ni faidd dy gyfarfod,
Mae'n suddo i'r tywod, a'i lu'n cilio draw;?Mae blodau sidanaidd ei dwr wedi gwywo,
A'i ger yn malurio trwy'r tes a thrwy'r gwlaw.
Heb ddim o ffydd Abram, bu myrdd o'i hiliogaeth
Dan iau annghrediniaeth yn gaeth lawer oes;?Ond troant i'th ddilyn, gan gerdded ac wylo,
Nes tawel ymffrostio yn Aberth y groes;?Ail-hwylir y delyn fu'n hir ar yr helyg,
Daw'r llwythau crwydredig i Seion mewn hedd;?Am ryfedd rinweddau y gwaed y cydganant,
A melus ganmolant gyflawnder y wledd.
Trwy'r fro lle bu Israel yn lledu ei babell,
Bro cafell y ddisglaer Shecina cyn hyn,?Bro melus beroriaeth telynau'r proff wydi,
Bro'r ardd lle bu'r chwysu, bro Calfari fryn:?Trwy honno mae'r wawr 'nawr yn gwasgar ei goleu
I ymlid cysgodau coelgrefydd ar ffo;?Trwy honno tyrr eto sain tannau gorfoledd,
A blodeu tangnefedd goronant y fro.
Hardd Rosyn Glyn Saron a siriol flodeua
Ar foelydd Siberia a gwledydd yr ia,?A'r awel wasgara ei iraidd aroglau
Nes gwella tylwythau y Tartar o'u pla;?I wlad y Saith Eglwys fu gynt yn flodeuog
Estynnir yr eurog ganwyllbren yn ol,?Ceir eto fflam fywiol o'r allor i danio
Lamp gras i oleuo pob bryn a phob dol.
Dan iau tri chan miliwn o eilunaddolwyr
Mae China mewn gwewyr yn griddfan yn awr;?Ond siglwyd ei mur, er cadarned ei seiliau,--
Mae eisoes yn fylchau, daw'n ddarnau i lawr;?Llon-gyrcha minteioedd i gysgod ei llwyni
I ddarllen a chanu am Aberth y bryn,?Ti wy demlau Fobi mae ceri-ddelwau yn crynnu,
A'u crefftwyr yn gwelwi, gan ediych yn syn.
Mae awel adfywiol yn awr yn ymsymud
Ar wyneb du-ddyfnder cymysglyd y byd;?Ar dymor dymunol mae'r nefol addewid
Bron esgor--mae gwewyr drwy natur i gyd:?Llawn bywyd yw heinif forwynion Rhagluniaeth,
Mae tannau mwyn odiaeth pob telyn mewn hwyl,?Mae arlwy frenhinol yn rhad i'r holl bobloedd,
A mil o flynyddoedd fydd yspaid yr wyl.
Goleuni gwybodaeth trwy'r ddaear ymdaena,
O'i flaen yr ymgilia'r tywyllwch yn glau;?Breuddwydion coelgrefydd fel niwl a ddiflanna,
A'r bleiddiaid gormesol a ffoant i'w ffau;?Cyfaredd y friglwyd ddewines a dorrir,
Y Gair a ddilynir fel Rheol y Gwir;?Doethineb fydd sicrwydd a nerth yr amserau,
Hyfrydwch hardd-fryniau y nef leinw'r tir.
Holl ddoniau yr enaid a gydymegniant
Er cynnydd ei fwyniant a symud ei boen;?Harddwisgir traethodau'r anianydd dysgedig
Ag iaith ostyngedig o fawredd i'r Oen;?Diweirdeb a rhinwedd a hoffant felusder
Y delyn fwyn seinber roes gynt iddynt glwy;?I chwythu eu gwenwyn dan flodeu maes awen,
Colynawg seirff uffern ni lechant yn hwy.
Gwir ydyw fod rhannau o'r wybren mewn cyffro,
Ond tyrfu wrth gilio mae'r 'storom yn awr;?Cenfigen a drenga, a nefol dangnefedd
Deyrnasa mewn mawredd dros wyneb y llawr;?Dinystriol
Continue reading on your phone by scaning this QR Code

 / 37
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.