Gwaith Samuel Roberts

Samuel Roberts
଀A free download from www.dertz.in ----dertz ebooks publisher !----
The Project Gutenberg eBook, Gwaith Samuel Roberts, by Samuel Roberts, Edited by Owen M. Edwards
This eBook is for the use of anyone anywhere at no cost and with almost no restrictions whatsoever. You may copy it, give it away or re-use it under the terms of the Project Gutenberg License included with this eBook or online at www.gutenberg.net
Title: Gwaith Samuel Roberts
Author: Samuel Roberts
Release Date: December 14, 2004 [eBook #14354]
Language: Welsh
Character set encoding: ISO-646-US (US-ASCII)
***START OF THE PROJECT GUTENBERG EBOOK GWAITH SAMUEL ROBERTS***
Transcribed from the 1906 Ab Owen edition by David Price, email [email protected]
GWAITH SAMUEL ROBERTS. (S. R.)
Rhagymadrodd.
Ganwyd Samuel Roberts yn Llanbrynmair, Mawrth 6, 1800. Bu farw yng Nghonwy, Medi 24, 1885; ac ym mynwent gyhoeddus Conwy y rhoddwyd ef i huno.
O'r Diwygiad y cododd teulu galluog S. R. Yr oedd ei dad, John Roberts, er 1798 yn olynydd i Richard Tibbot a Lewis Rees fel gweinidog Hen Gapel Llanbrynmair. Dyma enwau aelodau mwyaf adnabyddus y teulu,--
John Roberts - Mary Brees y Coed.
(1767-1834) |
|
+--------+------------+--------+-------------+?Maria Samuel Anna John Richard?(1797) (S.R.) (1801) (J.R.) (Gruffydd Rhisiart)
| (1800-1885) (1804-1884) (1810-1883) |?Gohebydd
? 1877.
Symudodd John Roberts a'i deulu, tua 1806, o Dy'r Capel i ffermdy y Diosg dros yr afon ar gyfer. "Tyddyn bychan gwlyb, oer, creigiog, anial, yng nghefn haul, ar ochr ogleddol llechwedd serth" oedd y Diosg; ac efe yw Cilhaul.
Daeth S. R. yn gynorthwywr i'w dad fel gweinidog yn 1827; dilynodd ef fel tenant y Diosg yn 1834. Cyn 1856, yr oedd y brodyr wedi penderfynu gadael Llanbrynmair,--aeth J. R. yn weinidog i Ruthyn, a hwyliodd S. R. a Gruffydd Rhisiart i'r America.
Cychwynodd S. R. o Lerpwl Mai 6, 1857; cyrhaeddodd yno 'n ol Awst 30, 1867. Yr oedd wedi ei siomi yn y gorllewin ac wedi troi ei gefn ar dy ei alltudiaeth,--Bryn y Ffynnon, Scott Co., East Tennessee. Cafodd ei dwyllo gan y rhai oedd yn gwerthu tir; darlunnir hwy ym Martin Chuzzlewit Dickens. Nid oedd wedi sylweddoli, hwyrach, mor erwin yw'r ymdrech mewn gwlad anial. A daeth y Rhyfel Cartrefol i andwyo ei amgylchiadau. Teimlai fod y ddwy ochr i'w beio, ac mai dyledswydd y Gogledd oedd talu pris rhyddhad y caethion i wyr y De.
O 1867 ymlaen ail ymunodd y teulu, a bu'r tri brawd byw yn yr un cartref yng Nghonwy hyd nes y cludwyd hwy i'r un fynwent.
Ychydig iawn oedd yn fwy adnabyddus nag S. R. yn ei ddydd yng Nghymru. Bu ef a'i frodyr mewn llu o ddadleuon,--y mae y gornestwyr oll wedi tewi erbyn hyn,--a gwnaethant lawer i ddeffro gwlad. Bu ei Gronicl yn foddion addysg i filoedd. Bu ef ei hun yn llais i amaethwyr Cymru, ac yn llais i werin yn erbyn gorthrwm o bob math. Cyhoeddwyd cofiant am dano ef a'i frodyr yn y Bala, gan y Dr. E. Pan Jones.
Wele ddwy ran nodweddiadol o'i waith. Bu y Caniadau yn hynod boblogaidd; y teulu yn Llanbrynmair yw'r "Teulu Dedwydd." Hwy hefyd yw teulu "Cilhaul," ac y maent y darlun goreu a chywiraf o ffermwyr Cymru dynnwyd eto.
OWEN EDWARDS.?Llanuwchllyn,?Awst 1, 1906.
[Photograph of Samuel Roberts, Llanbrynmair: sr1.jpg]
CYNHWYSAID.
1. CANIADAU BYRION.
[Argraffwyd y Caniadau hyn laweroedd o weithiau, ac y maent wedi bod yn foddion cysur i genhedlaethau o werinwyr. Dont o flaen adeg y Bardd Newydd, nid oes dim yn gyfriniol yn eu dyngarwch syml, eu tynherwch mwyn, a'u synwyr cyffredin cryf.]
Y Teulu Dedwydd?Marwolaeth y Cristion?Y Lili Gwywedig?Can y Nefoedd?Ar farwolaeth maban?Y Cristion yn hwylio i for gwynfyd?Cwyn a Chysur Henaint?Mae Nhad wrth y Llyw?Y Ddau Blentyn Amddifad?Cyfarchiad ar Wyl Priodas?Dinystr Byddin Sennacherib?Gweddi Plentyn?Cwynion Yamba, y Gaethes ddu?Y creulondeb o fflangellu benywod?Y fenyw wenieithus?Y Twyllwr hudawl?Darostyngiad a Derchafiad Crist?Buddugoliaethau yr Efengyl yn y Mil Blynyddoedd
II. CILHAUL UCHAF.
[Darlun o fywyd amaethwr, a'i ofidiau, yn hanner cyntaf y ganrif ddiweddaf. Mae'n fyw ac yn werthfawr am ei fod yn wir. Dyma'r bywyd gynhyrchodd oreu Cymru, a dyma'r bywyd hapusaf a iachaf yn y byd.]
John Careful, Cilhaul Uchaf. Senn y Steward. Gwobrwyon John Careful am wella ei dir,--I. Colli ei arian. II. Codi ei rent. III. Codi'r degwm. IV. Codi'r trethi. V. Rhoi cerdod i Peggy Slwt Slow nes y cai fynd ar y plwy. VI. Rhoi benthyg arian i Billy Active i ymfudo.
Jacob Highmind. Cario chwedlau i'r steward. Notice to quit i John Careful.
Pryder y teulu; troi golwg tua'r Amerig. Squire Speedwell yn ymyrryd. Yr ysgwrs rhwng Lord Protection a John Careful. Swn y bytheuaid. Meistr tir a steward. Ymadael o Gilhaul.
Yr
Continue reading on your phone by scaning this QR Code

 / 37
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.