The Project Gutenberg eBook, Gwaith Mynyddog. Cyfrol II, by 
Mynyddog, Edited by Owen M. Edwards 
This eBook is for the use of anyone anywhere at no cost and with 
almost no restrictions whatsoever. You may copy it, give it away or 
re-use it under the terms of the Project Gutenberg License included 
with this eBook or online at www.gutenberg.net
 
Title: Gwaith Mynyddog. Cyfrol II 
Author: Mynyddog 
Release Date: December 31, 2004 [eBook #14547] 
Language: Welsh 
Character set encoding: ISO-646-US (US-ASCII) 
***START OF THE PROJECT GUTENBERG EBOOK 
GWAITH MYNYDDOG. CYFROL II*** 
Transcribed from the 1915 Ab Owen edition by David Price, email 
[email protected]
 
GWAITH MYNYDDOG. CYFROL II. 
[Picture of Mynyddog: myn0.jpg] 
RHAGAIR. 
Ail gyfrol yw hon o'r caneuon ganai Mynyddog heb feddwl eu 
cyhoeddi hwyrach. Canodd hwy fel y can aderyn. Y maent yn aros yng 
nghof pawb a'u clywodd, er hynny. Ac oni ddylai pobl ieuainc na 
chlywsant Fynyddog eu cael? Oni ddylent redeg drwy fywyd ein cenedl 
fel y rhed aber y mynydd trwy'n cymoedd? 
Oherwydd, yn un peth, y maent yn ganeuon cyfeillgarwch a 
chymdeithas fwyn. Y mae i gwmniaeth, yn gystal ag unigedd, ei le ym 
mywyd ein henaid. O'r aelwyd i'r Eisteddfod hoffai Mynyddog ei
bobl,-- 
"Rwy'n caru hen wlad fy nhadau 
Gyda'i thelyn, ei henglyn, a'i hwyl,
Rwy'n caru cael bechgyn y 
bryniau 
Gyda than yn y gan yn eu gwyl." 
Cadwant, hefyd, naturioldeb ieuenctid gyda doethineb profiad. Dyna 
nerth Mynyddog. 
Y mae gwythien o synwyr cyffredin cryf yn rhedeg trwy ei holl 
ganeuon. Y mae hon yn rhoi gwerth arhosol ar y gan ysgafnaf fedd. 
Hyd yn oed wrth ddarlunio carwriaeth rhydd ergyd na roddodd yr un 
pulpud ei grymusach. 
Y mae'r synwyr cyffredin hwn yn gwneud ei hynawsedd mor ddoeth, ei 
ddigrifwch mor naturiol, ei bartiaeth mor henffel, fel y tybiwn ei fod yn 
codi uwchlaw ymrysonau ei ddydd, ac yn aros gyda'i genedl, gan dyfu 
gyda hi. A hawdd i genedl hoffus ddarllen ei meddwl i ganeuon 
Mynyddog, fel y derllyn tad ei feddyliau dyfnaf i afiaith parablus ei 
blentyn. 
Nid direidi a mwyniant yn unig sydd yng nghan Mynyddog. Y mae 
islais o brudd-der ynddi, oherwydd fod hynny yn y natur ddynol hefyd. 
Y mae ei wladgarwch, hefyd, yn ddoeth ac yn angerddol ar yr un pryd. 
Carodd fynyddoedd a nentydd ei wlad heb eu hysbrydoli fel Islwyn, 
carodd hwynt er eu mwyn eu hunain. 
Ac uwchlaw popeth, canodd mor glir oherwydd ei fod mor anhunanol. 
Canodd, nid gan feddwl am dano ei hun, ei gelfyddyd a'i ddelfrydau, ei 
uchelgais a'i anfarwoldeb, ond am y bobl yr oedd yn canu iddynt. 
Angylion gwasanaethgar iddo ef oedd ffurf ac athroniaeth. Ac nid oes 
yng Nghymru heddyw fardd a'i arddull mor gain, a'i feddwl mor ddwfn, 
na wna les iddo efrydu symlder Mynyddog, ac achos y symlder 
hwnnw.
OWEN M. EDWARDS. 
Llanuwchllyn. 
DARLUNIAU. 
Y mae y darluniau oll, ond y darlun o of Dinas Mawddwy, o waith y 
diweddar John Thomas, Cambrian Gallery, Liverpool. 
MYNYDDOG 
PEN Y MYNYDD 
"O dewch tua'r moelydd,
Lle mae grug y mynydd
Yn gwenu yn ei 
ddillad newydd grai." 
Y MELINYDD. 
"'Rwy'n caru swn yr olwyn ddwr 
A droir gan ffrwd y nant." 
MYNWENT EGLWYS LLANBRYNMAIR. 
Y GOF. 
"Yng nghanol haearn, mwg, a than, 
Mae'r gof yn gwneud ei waith,
Ar hyd y dydd, gan ganu can 
O fawl i'w wlad a'i iaith." 
AWEL Y BORE. 
"A charu 'r wyf yr awel wynt 
A hed dros Gymru gu." 
HEN GAPEL LLANBRYNMAIR.
"Bydd llygaid engyl gyda llygaid mam
Draw'n gwylio dros dy hun 
rhag it' gael cam." 
MYNYDDOG. 
[Pen y Mynydd. "Ac yma nid oes dim a ddaw
Cydrhwng y dyn a 
Duw.": myn8.jpg] 
HEN ADGOFION. 
O na chawn fynd yn ol ar hynt 
Drwy'r adeg ddedwydd, iach,
I brofi y breuddwydion gynt 
Pan oeddwn blentyn bach;
Cawn syllu eilwaith oriau hir 
Ar flodau gwanwyn oes,
Ac ail fwynhau ei awyr glir 
Heb gwmwl du na loes. 
O na chawn dreulio eto'n llawn 
Yr adeg lon, ddi-gur,
Pan gylch fy llwybrau fore a nawn 
'Roedd blodau cariad pur;
Nid yw ond megis ddoe o'r bron 
Im gofio ienctid ffol;
Ond dyma sydd yn rhwygo 'mron, 
Ddaw'r adeg byth yn ol. 
CHWI FEIBION DEWRION. 
(Geiriau i'r "Marseillaise.") 
Chwi feibion dewrion gwlad y bryniau, 
Clywch, clywch yr udgorn croch o draw,
Llywelyn sydd yn chwifio'i 
ddreigiau
A'i gleddyf gloew yn ei law;
Mae dagrau baban gwan a'r weddw 
Yn gwaeddi'n uwch na chorn y gad,
Fod rhyddid hoff ein hanwyl 
wlad
O dan ei chlwyf ymron a marw; 
Ymlaen! ymlaen i'r gad, 
Dadweinied pawb ei gledd,
Ni awn, ni awn dros freiniau'n gwlad 
I ryddid neu i'r bedd! 
Ystormydd rhyfel sy'n ymruo, 
Yr holl awyrgylch sydd yn ddu,
Mae cledd dialedd wedi deffro, 
Gwae, gwae i'r holl elynol lu;
Ni allwn edrych ar gelanedd 
Estroniaid yn arteithio'n gwlad,
Gan ddwyn aneddau'n mam a'n tad
A gwneud ein gwlad i gyd yn garnedd; 
Ymlaen! 
Deffroed ysbryd hyf ein teidiau 
I danio mynwes ddewr pob dyn,
Mae'r ddraig yn