A llwydd Dduw iddi, a lleoedd heddwch,
Gyrred allan o'i gaerau 
dywyllwch:
I ni y mae digon yma o degwch
Gael in', a'i hurddas, 
Gwalia'n ei harddwch;
Nes troi'n glynnau'n fflamau fflwch,--a'n 
creigiau,
Llonned ei dyddiau'n llen a dedwyddwch. 
HAWDDAMOR. 
Englynion ar agoriad Eisteddfod Caerwys, 1823. 
Nawddamor bob gradd yma,--orwych feirdd, 
Rhowch fyrddau 'ni wledda;
Lluman arfoll Minerfa
Sydd uwch 
Caerwys ddilys dda. 
Bu Caerwys, er pob corwynt--a 'sgydwai 
Weis cedyrn eu tremynt,--
Er braw, anhylaw helynt,
Nyth y gain 
farddoniaeth gynt. 
Troi o hyd mae byd heb oedi--a'n isel,
Mewn oesoedd, brif drefi;
Rhoes Groeg hen, a'i Hathen hi,
Awr i 
Gaerwys ragori. 
[Caerwys. "Er braw, anhylaw helynt,
Nyth y gain farddoniaeth gynt.": 
alun40.jpg] 
[Un O Heolydd Caerwys. "Rhoes Groeg hen, a'i Hathen hi, 
Awr i Gaerwys ragori.": alun56.jpg] 
DAFYDD IONAWR. 
Englyn o fawl i'r Bardd clodwiw am ei ymdrechiadau haeddbarch i 
ddiddyfnu yr Awen oddiwrth ffiloreg a sothach, a'i chysegru i 
wasanaeth rhinwedd a duwioldeb. 
Yr Awen burwen gadd barch,--unionwyd 
Gan IONAWR o'i hamharch;
Hefelydd i glaf alarch
A'i mawl yw 
yn ymyl arch. 
GWYL DDEWI. 
Penhillion a ddatganwyd yn Nghymdeithas Gymroaidd Rhuthyn, Gwyl 
Ddewi, 1823. 
Ton,--"Ar hyd y Nos." 
Trystio arfau tros y terfyn,
Corn yn deffro cawri y dyffryn,--
Tanio 
celloedd--gwaed yn colli,
Yn mro Rhuthyn gynt fu'n peri
I'r ael 
dduo ar Wyl Ddewi, 
Ar hyd y nos. 
Heddyw darfu ystryw estron,
Ellyll hwyr, a chyllill hirion;
Saeson 
fu'n elynion inni,
Heno gwisgant genin gwisgi--
Law-law'n dawel 
Wyl ein Dewi,
Ar hyd y nos. 
Clywch trwy Gymru'r beraidd gyngan
Rhwygo awyr a goroian--
Swn telynau--adsain llethri--
O Blumlumon i Eryri--
Gwalia 
ddywed--'Daeth Gwyl Ddewi,' 
Ar hyd y wlad. 
Felly ninnau rhoddwn fonllef
Peraidd lais ac adlais cydlef;
Rhaid i'r 
galon wirion oeri
Cyn'r anghofiwn wlad ein geni,
Na gwledd Awen 
bob Gwyl Ddewi, 
Ar hyd y wlad. 
EISTEDDFOD Y WYDDGRUG. 
AT MR. E. PARRY, CAERLLEON. 
Wyddgrug, Awst 16eg, 1823. 
Goroian! goroian! Mr. Parry anwyl. Bydd Callestr yn enwocaf o'r 
enwogion eto. Yr ydwyf newydd ddychwelyd o ystafell y dirprwywyr 
yn y Leeswood Arms, lle y cydsyniodd y gwladgarol Syr Edward 
Llwyd i gymeryd y gadair yn ein Heisteddfod; a rhoddodd 5l. at ddwyn 
y draul. Gosododd y mater o flaen yr uchel-reithwyr (grand jury) am y 
Sir, a thanysgrifiodd pob un o honynt bunt, gydag addaw ei noddi. 
Taflodd yr Uchel-sirydd ei deir-punt at y draul, gan addunedu, er mai 
Sais oedd, y byddai iddo noddi athrylith gwlad ei henafiaid hyd angeu. 
Dyma ddechreu yn iawn onide! Bellach, fy nghyfaill, ni raid i chwi 
wrido wrth son am eich sir gynhennid. Mae tan yn y gallestr, ac wedi ei 
tharaw o dde, hi a wna holl Gymru "yn brydferth goelcerth i gyd." 
Gosododd Callestr yr engraifft i holl siroedd eraill Cymru, trwy 
gymeryd y peth yn orchwyl y sir, yn y cyfarfod uchaf sydd ganddi. 
Nid oeddym ar y cyntaf yn meddwl ond am un bunt yn wobrau am y 
cyfansoddiadau goreu; maent yn awr wedi eu codi i bump, a disgwylir 
pan y cyferfydd y dirprwywyr nesaf y gellir eu hychwanegu eto. Dyna'r 
pryd y llwyr benderfynir ar y testynau, yr amser, y barnwyr, a'r
gwobrau; a byddaf yn sicr o anfon rhai o'r hysbysiadau argraffedig yn 
gyntaf oll i fy nghyfaill caredig a gwresog o Gaer, heb ddymuno mwy 
na'i weled yn ymgeisiwr llwyddianus. 
Mi a glywais fod Mrs. Parry a'i mab yn iach galonnog.--Dyma i chwi 
ychydig rigwm a gysoddais wythnos neu ddwy yn ol, ar destun a mesur 
can ragorach y doniol Erfyl. Chwi a welwch wrthi mai amcan at 
annerch y "gwr ieuanc dieithr" ydyw, fel pe buaswn wyddfodol. 
Henffych, amhrisiadwy drysor, 
Blaenffrwyth y serchiadau mad;
Ni fedd natur bleser rhagor 
Na theimladau mam a thad. 
Wrth olygu'th wyneb siriol, 
Gaiff dieithr godi ei lef,
'Mhell uwchlaw syniadau bydol-- 
Erfyn it' fendithion Nef? 
Nid am gyfoeth, clod, na glendid 
Caiff fy nymuniadau fod;
Dylai deiliaid tragwyddolfyd 
Gyrchu at amgenach nod. 
Boed i'th rudd sy'n awr a'i gogwydd 
At y bur dyneraidd fron,
Ddangos oedran diniweidrwydd,-- 
Gwisged bob lledneisrwydd llon. 
Dy wefus sydd wrth ei chusanu 
'N ail i rosyn teg ei liw,--
Boed i hon yn ieuanc ddysgu 
Deisyf am fendithion Duw.
Na wna achos wylo defnyn 
O'r llygaid 'nawr mewn cwsg sy'n cloi,
Ond i dlodi dyro ddeigryn 
Os na feddi fwy i'w roi. 
Dy ddwy law, sy'n awr mor dyner, 
Na bo iddynt gynnyg cam;
Ond rho 'mhleth i ddweyd dy bader 
Ac i ofyn bendith mam. 
Na boed gwen dy wyneb tirion 
Byth yn gymysg gyda thrals,
Ac na chaffo brad ddichellion 
Le i lechu dan dy ais. 
Na boed byth i'th draed ysgogi 
Oddiar ffordd ddaionus Duw:
Er ei chau a drain a drysni-- 
Llwybr i'r Baradwys yw. 
Boed i'th riaint fyw i'th arwain 
Gam a cham ar lwybrau gwir;
Na foed arnat ras yn angen 
Tra yma yn yr anial dir. 
Yr ydwyf yn gyrru eich llyfrau yn ol, gyda'r diolchgaiwch gwresocaf 
am eu benthyg. Yn y sypyn, hefyd, cewch hen ysgrif-lyfr, haws ei 
ddeall na'r llall: mynnwn gyfeirio eich sylw at y "Cywydd i law 
merch," ac ni    
    
		
	
	
	Continue reading on your phone by scaning this QR Code
 
	 	
	
	
	    Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the 
Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.
	    
	    
