dorau,--
Ai cwrel sydd yn lliwio cyrrau
Creigydd, moelydd, a du gymylau?
Nage, gwawrddydd glan, eirian 
oriau,
Wiwber anwyl sydd ar y bryniau;
Gwelwch Gymru ar fynydd 
golau,
A'n iach wyrion o'i chylch yn chwarau,
(Rhos sy' o danynt ar 
sidanau,)
Hust! ust! ust!--mae'n dyfod i'm clustiau,
Gathl enwog 
oddiar ei thelynau,--
Cerddorion a Beirdd, heirdd eu hurddau,
Yn 
dorf bloeddiant,--'Wi! darfu blwyddau
Yr ochain anwar a 
chynhennau;'--
Par y don i'm hyspryd innau--roi llam,
Mwy e 
grychneidia'm gorwych nwydau. 
"Daw dyddiau mad a diddan,
A mawr lwydd i Gymru lan;
Dyddiau 
bwrcaswyd iddi,
Ar dy ddichell dywell di;
O Dduw Ner daw'r 
hoewder hwn,
I'n Duw eilchwyl diolchwn:
Derfydd amser blyngder 
blin,
Curaw tymhestlog gerwin.
Daw hinon a daioni
O dy drais, 
na's tybiaist ti;
Bydd cof mewn gwledd am heddyw,
A chlod am it' 
fod yn fyw:
Iach amrant Lloegr a Chymru,
Daw'r ddwy-wlad mewn 
cariad cu;
Yna'n y ddwy mwy ni ddel,
I'w trefi helynt rhyfel;
Un 
llys fydd drwy'n hynys hon,
Una'i gwyr dan un goron;
Unant nerth, 
rhag rhyferthwy,
Un reddf ac un ddeddf i'r ddwy;
Un Duw arnynt, 
un deyrnas,
Un lluoedd, un floedd, un flas:
Gwelaf Frython, 
{28}--'rwy'n llonni,
Yn eistedd ar d'orsedd di!
Ac o ystlys a gwestle,
Y gyllell hir gyll ei lle:
A o gof ymladdau gant,
Eu hing hefyd 
anghofiant;
Cant gyd-fwynhau breintiau braf,
Law-law i'r genedl 
olaf:
Lle gwelwyd twyll a galar,
Echrys boen, a chroes a bar,--
Rhinwedd welir a hinon,
Gwenau, a bonllefau llon;
Rhyfela dry'n 
orfoledd,
Screchiadau yn hymnau hedd.
Ar eirian fro Eryri,
Ei 
chreigiau a'i hochrau hi,--
Lle mae trigfa'r bar yn bod,
A dwyn arfau 
dan orfod;--
Lle gwelir llu y gelyn,
A'u bloedd hell, y blwyddau 
hyn,--
Anhirion elynion lu,
A'u tariannau'n terwynu;--
Anianawl 
serch yn ennyn,
A ffoi at y gwaew-ffyn;--
Tyf breilos, a rhos di-ri',
Ar hon, a'r loew lili;
Eos fydd bob dydd yn dod
I fryn, yn lle 
cigfranod: 
"Ar y llethri a'r tyli telaid,
Tybiaf y gwelaf y bugeiliaid,
Lwythau
dofion, yn mhlith eu defaid,
Tarfant a chanant ffwrdd ochenaid,
Llamsach wyn bach yn ddibaid,--mor ddifyr,
Chwim a mygyr gylch y 
mamogiaid. 
"Lle codwyd bwyeill cedyrn,
Bydd twmpathau chwarau chwyrn;
Dawnsio pan y darffo y dydd,
A thelyn ar frith ddolydd:
I'n hynys, 
pan ei hunir,
Daw tawelwch, heddwch hir;
A chywir heddwch a 
rhyddid
Wneir y dydd hwnnw yn aur did;
Ar wddwf Cymru rhoddir
Y gadwen hon i gadw'n hir;
Y drefn gaeth wriogaethol,
Mwya'i 
nerth, a i ddim yn ol;
Bydd un gyfraith, 'run rhaith rhawg,
I lwyth 
isel, a Th'wysawg:
Iraidd wiwlon rydd-ddeiliaid,
Ri'r gwlith, yn eu 
plith o'u plaid;
Colofnau y breintiau bras,
A chadarn-weilch y 
deyrnas;
Ar bob mater a cherydd,
Rheithwyr yn farnwyr a fydd:
'R un fro wnaeth gwyar yn frith,
O dda gynnyrch ddwg wenith;
Cod 
yr amaeth, cydia'i rwymau,
Cain reolau, cyn yr haulwen;
Deil waith 
odiaeth, dol a thidau,
Iau a bachau lle bo ychen;
Teifl yr 
hadau,--llusga'r ogau,
Egyr ddorau gwar ddaearen,
Er cael cnydiau, 
yn eu prydiau,
Rhag i eisiau rwygo asen. 
"Esmwytho nos amaethydd,
Heddwch, diofalwch fydd,--
Y daw 
gelyn digwilydd
I'r berllan, na'r ydlan rydd;
Ac ni raid braw daw un 
dydd,
Ryw ormeswr i'r maesydd,
Neu Fodur cryf i fedi
'Nol 
anferth drafferth i drin:
Tybia'i wlad yn Baradwys,--
Dyry gainc 
wrth dorri'i gwys
A swch fuasai awchus
Gleddyf un dewr hyf di-rus;
Ymaith ar unwaith yr a,
Uwch ei boen y chwibiana. 
"Ac anterth cymer gyntun,
Heb i ofal atal hun;
O hyd yn ddiwyd 
ddiarf
Heb fod dan orfod dwyn arf
Heb elynion o Gonwy
O fewn 
maes i'w hofni mwy. 
[Castell Conwy. "Heb elynion o Gonwy
O fewn maes i'w hofni 
mwy.": alun25.jpg] 
"A thew ffrwyth ar
Gwnna'n gynnar;
Daw mawnog, gallt, a
mynydd,
A bronydd, yn dir braenar.
"Y ddwy wlad cyd addolant,
Cyd foli'r Ion union wnant;
Rhont glodydd i'w Dofydd da,
Law-law 
mewn Haleluia: 
"Yna y tyf yn y tir
Bob helaeth wybodaeth bur,
O ddirgelion 
meithion mor,
Daear, a'i sail, hyd i'r ser. 
"Helicon pob ffynnon ffel,
Parnassus pob bryn isel:
Eu rhyfedd 
faner hefyd
Achuba, orchfyga fyd;
O Gressi'r maes hagr asw,
I 
antur lan Waterlw:
Ac y diwrnod cadarnwych
Bydd y deyrnas 
addas wych
Heb ei bath, heibio i bob
Un arall o fewn Ewrob;
Rheola mewn rhialyd
O begwn i begwn byd." 
Gyda bloedd, gweda Bleddyn,
"Y nefol Ior wna fel hyn,
Foreu 
tawel o frad tywyll,
A llewyrcha o'r ddichell erchyll:
Molwn Dduw 
y Nef, gan sefyll,
Yna pawb a awn i'n pebyll." 
CERDD CALAN GWYLIEDYDD Y WYDDGRUG. 
Ymysgydwch o'ch cysgadrwydd-- 
Yn filoedd dowch i foli Duw;
Torrodd gwawr ar flwyddyn newydd, 
Gobeithiaf mai un ddedwydd yw:
Mae pob Calan fel yn gwaeddi, 
A'r tymhorau bob yr un,--
Yn eu dull yn dwys bregethu-- 
"Derfydd dyddiau byrion dyn." 
Heddyw'm gorchwyl innau dderfydd, 
Alwai'n chwaneg mo'no chwi;
Drwy fy nghylch yn bur wyliedydd 
A lladmerydd y bum i;
Mi fynegwn ddull y tywydd, 
P'un ai teg ai garw'r gwaith,
Fel y gwypech ar obenydd
Ai addas oedd y dydd i daith. 
Do, mi wyliais gylch eich drysau 
Ar ryw oerion oriau hir,
Rhag i ddynion drwg eu nwydau 
Dorri eich aneddau'n wir;
Tywydd garw, mwy nag oerni, 
Ni wnai nhroi oddiar fy nhaith,
A chan ofal i'ch gwas'naethu 
Methais gysgu lawer gwaith. 
Daeth fy ystod at ei therfyn, 
Darfu'm tro oddeutu'ch tre',
Un galenig wyf yn ofyn 
Am fy llafur yn y lle;
Chwi sy'n meddu da a moddion-- 
Digon sy'n eich llety llawn,--
Gwnai ychydig o'ch gweddillion 
DIC a'i deulu'n llawen iawn. 
LLWYDD GROEG. 
Awdl ar fuddugoliaethau diweddar y Groegiaid ar y Tyrciaid. 
Llwydd, llwydd, fwyn arwydd, i fanerau--Groeg, 
Hir rwyged ei llongau
Bob rhes o lu gormes gau,
Drwy'r moroedd 
draw a'r muriau. 
"A llwydd gyfarwydd a    
    
		
	
	
	Continue reading on your phone by scaning this QR Code
 
	 	
	
	
	    Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the 
Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.
	    
	    
