Gwaith Mynyddog. Cyfrol II

Mynyddog
The Project Gutenberg eBook, Gwaith Mynyddog. Cyfrol II, by Mynyddog, Edited by Owen M. Edwards
This eBook is for the use of anyone anywhere at no cost and with almost no restrictions whatsoever. You may copy it, give it away or re-use it under the terms of the Project Gutenberg License included with this eBook or online at www.gutenberg.net
Title: Gwaith Mynyddog. Cyfrol II
Author: Mynyddog
Release Date: December 31, 2004 [eBook #14547]
Language: Welsh
Character set encoding: ISO-646-US (US-ASCII)
***START OF THE PROJECT GUTENBERG EBOOK GWAITH MYNYDDOG. CYFROL II***
Transcribed from the 1915 Ab Owen edition by David Price, email [email protected]
GWAITH MYNYDDOG. CYFROL II.
[Picture of Mynyddog: myn0.jpg]
RHAGAIR.
Ail gyfrol yw hon o'r caneuon ganai Mynyddog heb feddwl eu cyhoeddi hwyrach. Canodd hwy fel y can aderyn. Y maent yn aros yng nghof pawb a'u clywodd, er hynny. Ac oni ddylai pobl ieuainc na chlywsant Fynyddog eu cael? Oni ddylent redeg drwy fywyd ein cenedl fel y rhed aber y mynydd trwy'n cymoedd?
Oherwydd, yn un peth, y maent yn ganeuon cyfeillgarwch a chymdeithas fwyn. Y mae i gwmniaeth, yn gystal ag unigedd, ei le ym mywyd ein henaid. O'r aelwyd i'r Eisteddfod hoffai Mynyddog ei bobl,--
"Rwy'n caru hen wlad fy nhadau
Gyda'i thelyn, ei henglyn, a'i hwyl,?Rwy'n caru cael bechgyn y bryniau
Gyda than yn y gan yn eu gwyl."
Cadwant, hefyd, naturioldeb ieuenctid gyda doethineb profiad. Dyna nerth Mynyddog.
Y mae gwythien o synwyr cyffredin cryf yn rhedeg trwy ei holl ganeuon. Y mae hon yn rhoi gwerth arhosol ar y gan ysgafnaf fedd. Hyd yn oed wrth ddarlunio carwriaeth rhydd ergyd na roddodd yr un pulpud ei grymusach.
Y mae'r synwyr cyffredin hwn yn gwneud ei hynawsedd mor ddoeth, ei ddigrifwch mor naturiol, ei bartiaeth mor henffel, fel y tybiwn ei fod yn codi uwchlaw ymrysonau ei ddydd, ac yn aros gyda'i genedl, gan dyfu gyda hi. A hawdd i genedl hoffus ddarllen ei meddwl i ganeuon Mynyddog, fel y derllyn tad ei feddyliau dyfnaf i afiaith parablus ei blentyn.
Nid direidi a mwyniant yn unig sydd yng nghan Mynyddog. Y mae islais o brudd-der ynddi, oherwydd fod hynny yn y natur ddynol hefyd.
Y mae ei wladgarwch, hefyd, yn ddoeth ac yn angerddol ar yr un pryd. Carodd fynyddoedd a nentydd ei wlad heb eu hysbrydoli fel Islwyn, carodd hwynt er eu mwyn eu hunain.
Ac uwchlaw popeth, canodd mor glir oherwydd ei fod mor anhunanol. Canodd, nid gan feddwl am dano ei hun, ei gelfyddyd a'i ddelfrydau, ei uchelgais a'i anfarwoldeb, ond am y bobl yr oedd yn canu iddynt. Angylion gwasanaethgar iddo ef oedd ffurf ac athroniaeth. Ac nid oes yng Nghymru heddyw fardd a'i arddull mor gain, a'i feddwl mor ddwfn, na wna les iddo efrydu symlder Mynyddog, ac achos y symlder hwnnw.
OWEN M. EDWARDS.
Llanuwchllyn.
DARLUNIAU.
Y mae y darluniau oll, ond y darlun o of Dinas Mawddwy, o waith y diweddar John Thomas, Cambrian Gallery, Liverpool.
MYNYDDOG
PEN Y MYNYDD
"O dewch tua'r moelydd,?Lle mae grug y mynydd?Yn gwenu yn ei ddillad newydd grai."
Y MELINYDD.
"'Rwy'n caru swn yr olwyn ddwr
A droir gan ffrwd y nant."
MYNWENT EGLWYS LLANBRYNMAIR.
Y GOF.
"Yng nghanol haearn, mwg, a than,
Mae'r gof yn gwneud ei waith,?Ar hyd y dydd, gan ganu can
O fawl i'w wlad a'i iaith."
AWEL Y BORE.
"A charu 'r wyf yr awel wynt
A hed dros Gymru gu."
HEN GAPEL LLANBRYNMAIR.
"Bydd llygaid engyl gyda llygaid mam?Draw'n gwylio dros dy hun rhag it' gael cam."
MYNYDDOG.
[Pen y Mynydd. "Ac yma nid oes dim a ddaw?Cydrhwng y dyn a Duw.": myn8.jpg]
HEN ADGOFION.
O na chawn fynd yn ol ar hynt
Drwy'r adeg ddedwydd, iach,?I brofi y breuddwydion gynt
Pan oeddwn blentyn bach;?Cawn syllu eilwaith oriau hir
Ar flodau gwanwyn oes,?Ac ail fwynhau ei awyr glir
Heb gwmwl du na loes.
O na chawn dreulio eto'n llawn
Yr adeg lon, ddi-gur,?Pan gylch fy llwybrau fore a nawn
'Roedd blodau cariad pur;?Nid yw ond megis ddoe o'r bron
Im gofio ienctid ffol;?Ond dyma sydd yn rhwygo 'mron,
Ddaw'r adeg byth yn ol.
CHWI FEIBION DEWRION.
(Geiriau i'r "Marseillaise.")
Chwi feibion dewrion gwlad y bryniau,
Clywch, clywch yr udgorn croch o draw,?Llywelyn sydd yn chwifio'i ddreigiau
A'i gleddyf gloew yn ei law;?Mae dagrau baban gwan a'r weddw
Yn gwaeddi'n uwch na chorn y gad,?Fod rhyddid hoff ein hanwyl wlad?O dan ei chlwyf ymron a marw;
Ymlaen! ymlaen i'r gad,
Dadweinied pawb ei gledd,?Ni awn, ni awn dros freiniau'n gwlad
I ryddid neu i'r bedd!
Ystormydd rhyfel sy'n ymruo,
Yr holl awyrgylch sydd yn ddu,?Mae cledd dialedd wedi deffro,
Gwae, gwae i'r holl elynol lu;?Ni allwn edrych ar gelanedd
Estroniaid yn arteithio'n gwlad,?Gan ddwyn aneddau'n mam a'n tad?A gwneud ein gwlad i gyd yn garnedd;
Ymlaen!
Deffroed ysbryd hyf ein teidiau
I danio mynwes ddewr pob dyn,?Mae'r ddraig yn edrych lawr o'r bryniau
Gan ddisgwyl gweled Cymru'n un;?Bu'n gwlad am oesau'n araf waedu,
Ond sych dy ddagrau, Walia Wen,?Mae seren gobaith uwch dy ben,?Daeth cledd Llywelyn i'th waredu.
Ymlaen!
CYMRU, GWLAD Y GAN.
Pa beth sy'n Nghymru, gwlad y gan,--?Ai diliau glwys, ai dolydd glan,?Ai gwastad diroedd heb eu hail,?Yn dwyn eu blodau teg a'u dail??Na, na, nid dyna'r harddwch sydd?Yn teg addurno Gwalia rydd.
Pa beth sy'n Nghymru, gwlad
Continue reading on your phone by scaning this QR Code

 / 22
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.