Cerddir Mynydd Du

Not Available
A free download from www.dertz.in

The Project Gutenberg eBook, Cerddi'r Mynydd Du, by Various,
Edited by W. Griffiths, Illustrated by Llew Morgan
This eBook is for the use of anyone anywhere at no cost and with
almost no restrictions whatsoever. You may copy it, give it away or
re-use it under the terms of the Project Gutenberg License included
with this eBook or online at www.gutenberg.org
Title: Cerddi'r Mynydd Du
Caneuon Hen a Diweddar
Author: Various
Editor: W. Griffiths
Release Date: September 6, 2007 [eBook #22528]
Language: Welsh
Character set encoding: ISO-8859-1
***START OF THE PROJECT GUTENBERG EBOOK
CERDDI'R MYNYDD DU***
E-text prepared by Al Haines
Note: Project Gutenberg also has an HTML version of this
file which includes the original illustrations.
See 22528-h.htm or
22528-h.zip:

(http://www.gutenberg.net/dirs/2/2/5/2/22528/22528-h/22528-h.htm) or

(http://www.gutenberg.net/dirs/2/2/5/2/22528/22528-h.zip)
[Frontispiece: G. Davies, Ysw., Seattle, U.D., I'r hwn y cyflwynir y
gyfrol hon, a thrwyddo ef i'r holl frodorion ar wasgar.]

Adgof dedwydd am a fu
Wna Fynydd Gwyn o'r Mynydd Du.
CERDDI'R MYNYDD DU
sef
CANEUON HEN A DIWEDDAR
WEDI EU CASGLU A'U TREFNU GAN Y
PARCH. W. GRIFFITHS
(G. AP LLEISION), YSTRADGYNLAIS.
GYDA DARLUNIAU GAN
MR. LLEW MORGAN.
ABERHONDDU:
Argraffwyd gan ROBT. READ,
yn Swyddfa'r
"Brecon & Radnor Express," Y Bulwark.
1913.
CYNWYSIAD.
Cyflwyniad
With Droed y Mynydd Du
Adgofion Mebyd
Llynau'r
Giedd
Shon Wil Khys
Pen y Cribarth
Yn y Mawn ar ben y
Mynydd
Bugail y Mynydd Du
Hela'r Twrch Trwyth
Afon Giedd

Ffaldau Moel Feity
Y Llynfell
Llyga d y Dydd ar Waen
Ddolgam
O'r Niwl i'r Nef
Gwilym Shon
Llyn y Fan
(Gwatwargerdd)
Ffrydiau Twrch
Angladd ar y Mynydd Du
Y Gof
Bach
Ffynon y Brandi
Dafydd y Neuadd Las
Cyw
Llyn y Fan

Ar y Banau
Breuddwyd Adgof
Cân y Dwyfundodiaid
Illustrations
G. Davies, Ysw., Seattle, U.D., I'r hwn y cyflwynir y gyfrol hon, a
thrwyddo ef i'r holl frodorion ar wasgar. . . . . . _Frontispiece_

Cerfiad mewn trawst perthynol i hen amaethdy Brynygroes, yn dynodi
adeg ei adeiladu, ac enw ei breswylydd. Mae y lle wedi ei ddal gan yr
un llinach am dros 400 0 flynyddoedd.
Bryn-Y-Groes.
Mynwent Cwmgiedd.
Gored Y Giedd.
Trem I'r Mynydd Du.
Cwmgiedd (Rhan Isaf).
Ffynon-Y-Cwar.
Pont-Ynys-Twlc.
Penparc.
Llocior'r Defaid.
Maen Derwyddol Ger LLaw Llyn-Y-Fan Fawr.
LLyn-Y-Fan.
[Illustration: Cerfiad mewn trawst perthynol i hen amaethdy
Brynygroes, yn dynodi adeg ei adeiladu, ac ewn ei breswylydd. Mae y
lle wedi ei ddal gan yr un llinach am dros 400 o flynyddoedd.]
[Illustration: Bryn-Y-Groes.]
CYFLWYNEDIG
1
GRIFFITH DAVIES, Ysw.,
SEATTLE, WASHINGTON, AMERICA.

At foneddwr--brodor glân,
Lyfr bychan, dos a'th gân,
Nid oes genyf
anrheg well
Iddo ar Gyfandir pell
Na'r caneuon syml hyn--
Cerddi
bro ei faboed gwyn.
Yma gwelodd gynta'r byd,
Giedd suai gwsg ei gryd,
Yn ei dyfroedd
laslanc llon
Dysgodd gyntaf nofio'r don,
Ar ei glanau yfai ddysg,

Yn ei llynau daliai'r pysg.
Am flynyddau wedi hyn
Cerddai'r fro, a dringai'r bryn.

Anturiaethus fu ei daith
I'r pellderoedd lawer gwaith;
A chyfrinach
anian gu
Glywodd ar y Mynydd Du.
Myn brodorion yr Hen Wlad
Adrodd beunydd mewn mwynhad
Am
ei deithiau yma a thraw
Gyda'i lyfr yn ei law;
Hoffai wybod
meddwl dyn,
Meddwl Duw yn fwy na'r un.
Haf a gauaf, tes a gwynt,
Carai fyn'd i'r Capel gynt,
Rhoes ei ddawn
yn offrwm byw
Ar allorau sanctaidd Duw;
Casglodd yma fanna
bras,
Canodd yma gerddi gras.
I'r cwrdd gweddi ffyddlawn bu,
Yn yr Ysgol, athraw cu;
Ei
ddisgyblion dros y byd
Dystiant am ei wersi drud,
Hauodd ef ar
lawer dol,
Tyf cynhauaf gwyn o'i ol.
Diwrnod yn y cwmwl trwm
Ydoedd hwnw yn y Cwm
Aeth a'r
delfryd lanc di-ail
Tua gwlad machludiad haul;
Yn y cwmwl nid
oedd gwên,
Wylai'r ieuanc, wylai'r hen.
Mae blynyddau maith er hyn,
Newid sydd ar fro a bryn;
Hen
gyfoedion wedi myn'd,
Nid oes mwy ond _ambell_ ffrynd,
Yntau
fry ar dyrau llwydd

Gafodd fyd a Duw yn rhwydd.
Daw hanesion dros y dón,
Hanes glân fel ewyn hon,
Hanes calon
eang, hael,
Fedra roi mor llon a chael,
Hanes bywyd sydd a'i fryd

Beunydd i brydferthu byd.

Frodor anwyl, hoff yn awr
Ganddo gofio llwybrau'r wawr,
Mae y
Mynydd Du o hyd
Iddo'n gyfrinachau'i gyd,
Salmau'r neint sydd ar
ei glyw--
Mynydd ei Wynfydau yw.
Lyfr bychan, dos a'th gân
Drosodd i'r boneddwr glân;
Nid oes genyf
anrheg well
Iddo ar Gyfandir pell
Na'r caneuon syml hyn--
Cerddi
gwlad ei faboed gwyn.
G. AP LLEISION.
Wrth Droed y Mynydd Du.
'Roedd blodau ar y dyffryn,
A Mai o dan y coed,
Yn chwareu gyda'r
awel
Yn lion ac ysgafn droed:
Fe ganai y fwyalchen
Ar gangen
las uwchben,
Heb wrando cyfrinachau serch
Y ddau oedd dan y
pren.
Fe welsant flodau'n tyfu
Ar bedwar-ugain Mai,
Ond welodd neb er
hynny,
Eu serch yn myn'd yn llai;
Adroddant wrth en gilydd

Adgofion blwyddi fu,
Pan rodient dan oleuni'r lloer
Hyd llethrau'r
Mynydd Du.
"'Rwy'n cofio'r noson gyntaf
I'th welais, f'anwyl un,
Pan deimlais
yn fy nghalon
Fod mellt yn llygad mun;
'Rwy'n cofio'th wylio'n
rhedeg
Fel ewig dros yr allt,
A'r nos oedd yn dy lygad, Gwen,
A'r
aur oedd yn dy wallt."
"Ond dofi wnaeth y fellten
Oedd yn dy lygad, Gwen,
Ac yn lle aur
daeth eira
I aros ar dy ben:
Mi garaf eto'th lygad,
Fy nghariad,
clyw fy ngair,
A charaf eto'r eira, Gwen,
Fel cerais gynt yr aur."
"'Rwy'n cofio gofyn iti,

O dan y bedw bren,
A wnaethet fy mhriodi,

Addewaist tithau, Gwen:
Ysbio rhwng y cangau
'Roedd goleu
llwyd y lloer,
A ninnau rhwng ei llewyrch,
Continue reading on your phone by scaning this QR Code

 / 14
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.